hun fe ddysgodd ysgrifennu ac ychydig rifyddiaeth. Ymgadwodd rhag gwagedd ieuenctid. Pan ddaeth i'r eglwys yn y diwygiad, dywedai dan grynu ei fod yn bechadur mawr ac arno eisieu trugaredd, a darfod iddo'r bore hwnnw deimlo'r fath ofn na chae byth ddod i Dŷ'r Arglwydd, oni ddeuai y tro hwnnw, fel yr ydoedd i'w deimlad megys pe dywedasid hynny yn eglur a hyglyw wrtho ef. Bu mewn ofn mynych ar ol hynny na chafodd wir droedigaeth, ond yr oedd ei fuchedd yn addas i'r Efengyl. Nid oedd heb brofi cysuron yr Efengyl. Ar un Sul neilltuol, a'i feddwl yn dra isel ar y pryd, aeth gyda dau gyfaill i le neilltuedig i ddarllen a gweddio. Torri allan i foliannu Duw, a pharhau yn hynny am oriau. Bu'r tro hwnnw mewn coffadwriaeth ganddo am weddill ei oes. Ar fore Sul enciliai i le dirgel i fyfyrio a gweddio cyn myned i'r gwasanaeth. Tystiai y rhai y bu gyda hwy mewn gwasanaeth na welwyd mono mewn drwg dymer Yn wr call er yn ddiniwed. Ysgrifennai i lawr bethau yr hoffai iddynt aros yn ei gof, a chyfansoddai ambell ddernyn o'i eiddo ei hun. Dywedai ei ddosbarth yn yr Ysgol ar ol ei farw fod eu hathraw yn y nefoedd. Mae paragraff olaf John Owen mor brydferth, fel y rhaid ei ddyfynnu yma: Dyn duwiol mewn sefyllfa isel yn y byd yw un o addurniadau pennaf creadigaeth Duw. Dyma y darlun cywiraf o fywyd yr Arglwydd Iesu yn y byd. Yma y mae duwioldeb i'w weled yn ei ddisgleirdeb ei hun heb ei arliwio gan wychder y byd hwn. Y mae y saint ar y ddaear, mewn sefyllfa isel, yn rhoi'r fath brawf o ymostyngiad i ewyllys Duw, ag sy'n gryfach i'n golwg ni nag ymostyngiad yr angel wrth guddio'i ben a'i draed â'i adenydd. Ac oni bai fod sefyllfa'r angylion yn ddiogel, a'r eiddo'r cythreuliaid yn anobeithiol, dywedem y buasai'r fath esiampl o ostyngeiddrwydd yn gyrru'r naill i eiddigeddu a'r lleill i gywilyddio." (Edrycher dan 1832).
1843, sefydlu eglwys yn Nebo. Newid trefn y pregethu o 2 a 6 i 10 a 6, ac am 2 yn Nebo.
1844, Hydref 8, Cyfarfod Misol. William Owen yn datgan awydd am achos ym Mhenygroes. Gohiriwyd. Yn y ddau Gyfarfod Misol dilynol, William Owen yn dadleu dros Penygroes. John Jones yn ei bleidio.
1845. Rhentio hen gapel y Wesleyaid yn Nhreddafydd, a sefydlu achos yno, y bedwaredd gangen o Lanllyfni. William Owen yn ymuno â'r achos yno.