Misol Llanllyfni, Rhagfyr 4 y flwyddyn flaenorol, a chryn wrthwynebiad yno. Bu yma dan 1857, pan ymadawodd i Dalsarn.
1855 neu 6, Medi 9, dewis yn flaenoriaid: John Griffith Cae du, Robert Roberts Nant y Gwyddel, a Henry Hughes Rhos y rhymiau.
Bu Sion William Pandy hen farw yn 1856. Mab William Sion, pen blaenor y dyddiau gynt, megys ag y bu ei fab yn ddiweddarach. Dywedai William Roberts Clynnog na welodd efe mo neb callach na Sion William. Danghosodd fedr a chraffter ynglyn âg achosion o ddisgyblaeth. Yn adnabod dynion. Dafydd Jones Buarthau unwaith yn bygwth codi ei docyn aelodaeth, am fod y plant yn cael rhyddid i ddweyd eu hadnod yn y seiat, ac yna yn chware a chadw twrf wedi myned allan. Ni fynnai mo'i ddar- bwyllo gan y swyddogion eraill. Eisteddai Sion William â'i ddwy law ar ben ei ffon, a'i dalcen ar ei ddwylaw. Apelid ato ef yn y man : "Sion William, beth sydd gennychi i ddweyd?" Ar hynny cododd yn sydyn, ac ebe fe, "Nid wn i ddim beth i feddwl o Dafydd. Mi a'i clywais yn sôn am ymadael o'r blaen, dro yn ol. Dafydd, yr hyn yr wyt ar fedr ei wneuthur, gwna ar frys! Agorwch y drws iddo, bobl, gael iddo fyned!" Aros yn ei le ddarfu Dafydd Jones, a thewi â sôn. Calfin go uchel oedd Sion William. Yr oedd John Jones yn pregethu yn Llanllyfni un tro, pan yr oedd gryn sôn yn y wlad ei fod yn Arminaidd ei olygiadau. Nid oedd Sion William yn porthi dim ar y bregeth y tro hwnnw. Yn y man, y mae John Jones yn codi i hwyl go uchel, gan ddyrchafu ei lais, "Dyma i chwi Galfiniaeth, fy mhobl i!" Ebe Sion William dros y capel, "Ie'n wir, 'doedd ryfedd na ddoe hi o'r diwedd!" Gwr dwrn-gauad braidd, y cyfrifid Sion William. Rhoes ddeuswllt un tro i John Evans Llwynffortun, ar ol pregeth. Ymliwiai y blaenoriaid eraill âg ef: oni byddai'n well rhoi hanner coron i bregethwr mor fawr a phoblogaidd? "Na, na, yn wir, welwchi," ebe yntau, "y mae o'n cael chwe swllt yn y dydd a'i fwyd, ac y mae hynny yn gyflog da iawn iddo fo." Nid William Sion oedd Sion William; ond yr oedd Sion William yntau, hefyd, yn wr gwasanaethgar iawn yn ei ddydd gydag achos ei Arglwydd.
Bu Llanllyfni yn hwy na'r ardaloedd cymdogaethol cyn profi o ddylanwadau diwygiad 1859. Ar Awst 21 yr oedd John Jones Penmachno yma yn pregethu, ar ol bod ohono yn sir Aberteifi,