a gwres y diwygiad i'w deimlo ynddo. Hanes am y diwygiad yn dod o Bwlan. Ar hynny dyma John Prichard yn gofyn i'r eglwys ymrwymo i weddïo am fis am dano. Codwyd dwylaw yn arwydd. Noswaith ffair gyflogi Bontnewydd, daeth llu o fechgyn y Bwlan i Lanllyfni i'r cyfarfod gweddi. Ond er eu bod hwy yn frwd, yr oedd pobl y Llan heb deimlo yn gyffelyb, a rhai yn beirniadu. Dyma fis John Prichard ar ben heb ffrwyth. Nid oedd dim i'w wneud ond adnewyddu'r cyfamod am fis arall. Fore Gwener, Tachwedd 10, dyma Dafydd Morgan yma. Dim hynod yn y bregeth; y cyfarchiad ar ol hynny yn nerthol, â rhywbeth gorchfygol ym mhob gair. Harry Morris Brontyrnor yn gwaeddi allan, "Mae hi'n talu ar law, Mr. Morgan!" Arosodd deuddeg ar ol. Cyrus ar ffrynt yr oriel, wedi bod ar encil am beth amser. Pwy ydych chwi?" gofyn— nai'r diwygiwr. "Y gwaethaf o bawb," oedd yr ateb, a'r unig ateb a geid y bore hwnnw i'r cwestiwn. Yn y man yr oedd Cyrus ar ei draed yn parhau i lefain, "Dwedwch i Petr! Dwedwch i Petr !" Y dydd cyntaf o'r flwyddyn ddilynol, fore Sul, pan yr oedd hen frawd ar weddi, ac yn gofyn yn ei weddi am galennig, torrodd allan yn orfoledd mawr. Arferai lliaws ddweyd, ymhen blynyddoedd, na wyddent pa beth a ddaethai ohonynt gyda chrefydd oni bai am y diwygiad. Fe ymroes y blaenoriaid o hynny allan i waith eu swydd gydag ynni newydd. Codwyd rhif yr eglwys o 110 i 186 mewn dwy flynedd, gan ostwng i 160 yn y ddwy ddilynol.
1860, mewn Cyfarfod Misol yn Nebo, Robert Jones, gweinidog y Bedyddwyr, yn galw sylw nad oedd dim ysgol ddyddiol yn yr ardal, ac mai'r Methodistiaid oedd i'w beio fwyaf ar gyfrif mai hwy oedd liosocaf. John Phillips Bangor yn pwyo'r hoel ymhellach. Y flwyddyn hon bu'r person, John Jones, farw. Ar hynny ei fab, John Jones, ag oedd yn gwasanaethu yn ei le ers talm, yn tyrfu am ysgol. Yn y cyfwng hwn, Thomas Jones Post Office, William Jones Coed—cae—du, a Robert Roberts Nant y Gwyddel, tri o Fethodistiaid, mewn ymgynghoriad gyda'u gilydd, yn penderfynu danfon William Jones at John Phillips Bangor, gan erfyn arno ddanfon dros yr ardal at y Cynghor Addysg, yr hyn a wnaed. Ymdrechfa yn y canlyniad rhwng y Methodistiaid a'r Eglwyswyr. Pleidleisio'r ardal, pa fath ysgol a ddewisid? Yr ymneilltuwyr yn ennill. Ar gyfryngiad John Phillips, Mrs. Jones Porthmadoc yn cyflwyno darn o dir yn ymyl y capel—"gardd y Bermo"—i achos addysg. Ebrill, 1861, dechre adeiladu'r ysgol. Yr ymgymeriad, £533;