Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/136

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar yr un pryd yn eu dwrdio?" Pwysleisiai'r hwn yn yr adnodau mawr yn dra effeithiol: "Hwn a osododd Duw yn iawn," "Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth," a'r cyffelyb. Darllenwr mawr ar Gurnall, Taith y Pererin, ac yn enwedig y Beibl. Rhyddfrydig ac ystwyth, ac yn symud gydag anghenion yr amserau. Tad mewn pethau ysbrydol, a gweddiwr neilltuol. Pan ofynnwyd iddo ar ei wely angeu a oedd arno ofn marw, ei ateb oedd, "Oes, y mae arnaf ofn y loes, ond nid oes arnaf ddim ofn y canlyniadau."

Awst 12, 1864, penderfynu adeiladu capel newydd. Sicrhawyd hanner erw o dir, ynghyda meddiant o'r hen brydles, am £200. Tynnwyd y cynllun gan Richard Davies Llanfairfechan. Ebrill 5, 1865, gosod y gwaith yn dair rhan: y gwaith maen i Evan Jones Maen coch, y gwaith coed i Henry Morris Brontyrnor, plastro a phaentio i Edward Hughes Caernarvon. Gosod y gwaith o gau mynwent allan i Humphrey Griffith Llanllyfni a R. Williams Penmynydd. Traul y cyfan, £2,600, gan gynnwys y tŷ, yr ystafell ysgol, a'r £100 dyled ar yr ysgoldy yr ymgymerwyd â'i ddwyn. Maint y capel, 22 llath wrth 17. Eisteddleoedd i 600. Bu rhyw anealltwriaeth rhwng y trysorydd ag ymgymerydd un gyfran o'r gwaith yn achos na thalwyd dim o'r ddyled hon am flynyddoedd. Ceisiwyd gyda'r naill gynllun ar ol y llall ddileu y ddyled, heb fod dim yn tycio nemor. O'r diwedd, pan rowd y peth yr ail dro o flaen yr Ysgol fe lwyddwyd. Trowyd casgl y dydd diolchgarwch at yr un amcan, a sefydlwyd cymdeithas ddilôg. Yr oedd £1,500 mewn llaw yn y flwyddyn 1877. Buwyd yn talu £200 y flwyddyn o'r ddyled am rai blynyddoedd, pan oedd masnach mewn cyflwr da. Erbyn diwedd 1885, yr oedd y ddyled wedi ei thynnu i lawr i £191. Yr oedd y diffyg dealltwriaeth y crybwyllwyd am dano wedi effeithio yn ddrwg ar bob casgl hyd 1870.

Yn 1865 yr aeth Henry Hughes i Dalsarn. Efe, yn 1862, a ddechreuodd roi swm rhoddion yr aelodau i lawr yn y casgl misol. Croes roddid cyn hynny, fel yr oedd yr arfer gynt. arfer gynt. Chwe cheiniog y pryd hwnnw oedd rhodd y brodyr; dwy geiniog y chwiorydd. Gair yn fyrr ac i'r pwrpas fyddai gan Henry Hughes. Yn adeg y diwygiad yn hynod iawn rai prydiau. Rhyw floedd ynghanol ei weddi weithiau pan dorrai'r argae ac yna ffrydlif anorchfygol. Am y rhelyw, gwr distaw, caredig, duwiol.

Y flwyddyn hon y bu farw John Griffith Caedu, yn flaenor ers deng mlynedd. Gwyllt o dymer. Fel arolygwr ysgol, wrth