o fod, elai hi ato ei hun, a byddai'r cyhoeddiad wedi ei addaw yn y man. Mae cyfoeth rhestr pregethwyr Robert yn ddyledus i fesur nid bychan i Ann. Heb blant ei hun, tra hoff ydoedd o blant yr ardal. Y tŷ capel oedd ei chastell, eithr hi a'i newidiodd yn y man am y tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd.
Yn 1866 dewiswyd yn flaenoriaid, Thomas Jones Post Office a Griffith Hughes Buarthau.
Rhagfyr, 1868, aeth y Parch. William Jones, y bugail, i Draws- fynydd, gan dderbyn galwad yr eglwys yno.
Yn 1869 y dechreuodd Morris Jones bregethu yma.
Yn 1870 derbyniodd Mr. Robert Thomas, Hirael y pryd hynny, alwad yr eglwys hon a Nebo, y naill yn cyfrannu iddo £30 y flwyddyn a'r llall £10. Yr oedd hyn yn gam amlwg ymlaen, fe ymddengys, ar y trefniant gyda'r bugail blaenorol. Ar ddiwedd y flwyddyn. yr oedd rhif yr eglwys yn 200, yn ol taflen y Cyfarfod Misol. Y casgl at y weinidogaeth yn £69 12s. 2c. Y ddyled yn £1,520. Y flwyddyn hon, am y tro cyntaf, fe godwyd dau archwiliwr, ond nid heb wrthwynebiad. Fe fernir i'r symudiad fod o les. Ar ol y flwyddyn hon y codwyd ysgoldy Penchwarel, a chymerwyd y gofal gan Thomas Jones y Post.
Mae'r Asiedydd yn coffa marw dwy chwaer yn 1871, sef Anne Parry Pentre isaf, Chwefror 13, yn 57 oed, ac Ellen Roberts Siop uchaf, Hydref 7, yn 51 oed. Yr oedd y gyntaf o'r ddwy yn wraig gyfoethog yn y byd hwn, ac heb fod yn uchel feddwl, yn hawdd ganddi roddi a chyfrannu, yn trysori iddi ei hunan sail dda erbyn yr amser sydd ar ddyfod. Y chwaer arall oedd wedi ei hegwyddori yn dda yn yr athrawiaeth, a'i hyder yn ei diwedd oedd, y byddai i'r hwn a ddechreuodd ynddi y gwaith da ei orffen hyd ddydd Crist.
Yn ystod 1870-1 y daeth Owen Rogers yma o Hyfrydle. Ymadawodd yn ol yn 1877.
Mae gohebydd yn y Goleuad am Mai 17, 1873, yn dweyd fod Temlyddiaeth Dda yn ei rhwysg yma y pryd hwnnw, a Theml yma gan y plant.
Medi 13 y bu farw Robert Griffith Cae'rengan, yn 57 mlwydd oed. Edrydd yr Asiedydd ar ei ol, ddarfod iddo pan yn was bach mewn fferm yn Eifionydd, ddechre gyda'r ddyledswydd deuluaidd.