Collodd yr arfer o'i fraich drwy waew, ac aeth i'r ysgol at Eben Fardd. Bu yno am flwyddyn yn dysgu cadw cyfrifon, ac yna adeiladodd fasnachdy yn Llanllyfni. Ar ol hyn bu drwy Gymru yn gwerthu gweithiau Eben Fardd a D. Jones Treborth. Gorfanwl mewn disgyblaeth deuluaidd, feallai. Ni phallai'r ddyledswydd deuluaidd. Dirwestwr pybyr. Athraw defnyddiol, yn hoff o'r termau diwinyddol, yr hyn a ddug iddo'r teitl "doctor" gan gylch neilltuol. Anrhegwyd ef â Beibl a spectol aur gan ei ddosbarth a'i gyn-ddisgyblion, ynghydag "anerchiad." Fymryn yn ffwdanllyd, fwy na mymryn o garedig, hoff o blant, ac wrth ei fodd yn eu cyfarfodydd. Dawn siarad amlwg. Gweddïai lawer pan arno'i hun, ond nid heb i'r plant ddod o hyd iddo weithiau. Cyfundebwr cryf. Efe yn un o'r tri a roes y cam cyntaf at gael ysgol. Frytanaidd i'r lle. Traddododd y cynghor i 15 o flaenoriaid yng Nghyfarfod Misol Dinorwig, Mehefin, 1898. Yn ystod ei oriau olaf, gofynnodd ei ferch iddo, "Nhad, beth sydd gennych i'w ddweyd heddyw? yr ydych wedi bod yn ffyddlon iawn iddo." Ebe yntau, "Yr un geiriau sydd ganddo i'w ddweyd wrthyf ag a ddywedodd wrthyf pan oeddwn ar fy ngliniau o flaen yr hen gadair yna ers talm, Ni'th adawaf."
Henry Williams Glanaber, a fu farw Mai 14, 1900, yn 57 oed, ac yn flaenor ers dwy flynedd arhugain. Ysgol Henry Williams oedd aelwyd ei dad. Y tad a'r plant yn hoff o ddadleu pynciau. Y Parch. W. Williams Rhostryfan ydyw un o'r plant hynny. Iolo Caernarvon ymhlith ei gyfoedion ieuainc. Ei brif nodwedd ydoedd ireidd-dra crefyddol. Pwnc mawr ganddo oedd prydlondeb yn y moddion. Ar farwolaeth Thomas Jones y Post, ymgymerodd â gofal ysgol Penchwarel. Dilynodd fyned yno am ddwy flynedd arbymtheg. At y diwedd byddai'n ymlusgo myned, ac yn troi i dy ar y ffordd i orffwys. Pob cynghor o'i eiddo yn argyhoeddiad iddo. Yn ddifrif heb fod yn anaddfwyn. Gwrandawr aiddgar ar bob pregeth. Amen brwd. Heb adnoddau dyn cyhoeddus, gweithiai yn ddistaw o'r golwg. Gwr bucheddol, yn meddu ar "grefydd gron" yr hen bobl. "Canllaw Duw," ebe Mr. Owain, "i gadw dynion rhag gwyro oddiar y llwybr cul, a charreg filltir ar y ffordd i Wynfa." Ysgrythyrwr campus. Ei hoff lyfrau, y Geiriadur, Esboniad James Hughes, a Thaith y Pererin. Ymwelwr â'r claf. Cedwid urddas crefydd ar yr aelwyd. Athraw ymroddedig. Cofiodd ar hyd ei oes y cynghor a gafodd wrth ei dderbyn