Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/147

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn addysgiadol. Meddai lywodraeth hollol ar ei thymerau. Bu farw oddeutu 1869. Sonia'r Asiedydd am " Amen gynes " Marged Dafydd, Ann Dafydd, Elin Wmphre, Mari William a Mary Jones Ty'nllwyn.

Mae gan y Parch. R. Thomas nodiadau ar amrywiol bersonau. "Paham y grwgnach dyn byw, gwr am gosbedigaeth ei bechod," fyddai adnod Mrs. Griffith Cae'rengan, pan ymwelai efe â hi yn ystod ei chystudd maith. "Nid oes gennyf finnau hawl i rwgnach er fy holl gystuddiau." Y gair garw ymlaen fyddai gan John Griffith Tŷ-gwyn-uchaf. Hen gymeriad hynod. Dweyd ei feddwl yn ddibetrus, digied a ddigio. Ond gan ei fod ef yn ddiwenwyn, ni ddigiai neb. Cyfarchai'r Brenin Mawr un tro: "Dyma ni wedi dod ger dy fron: rhyw flewiach o bethau ydym; ynom ein hunain yn dda i ddim ond ein llosgi. Ond credwn, er hynny, y gelli di ein hachub drwy ras." Perl heb bolish. Mam yn Israel oedd Mrs. Griffith Dôl Ifan. Cafwyd aml i wledd gyda hi yn ei chystudd blin, ac un cyfarfod gweddi hynod. Yr oedd ystafell ei gwely yn ogoneddus y noswaith honno; ac nid hir y bu hi ei hunan ar ol hynny cyn cael ei chymeryd i ogoniant. Yn preswylio gyda hi yr oedd Betty William, dall erioed, debygir. Bob amser yn siriol, a llawer o'r amser yn canu yn felodaidd. Manwl iawn gyda'r Saboth: ni byddai prin yn foddlon i York, y ci, gyfarth ar ddydd Sul. Michael Williams, y cerddor selog, a fu o wasanaeth mawr gyda phlant lleiaf yr Ysgol. Tra gafaelgar mewn gweddi oedd John Williams y teiliwr. Disgwylid iddo'n wastad gymeryd rhan yng nghyfarfod yr hwyr yn y Cyfarfod Diolchgarwch. Meistr ar yr hen ddawn Gymreig soniarus a hyfryd. Eithr yr oedd ganddo fwy na chelfyddyd; moriai mewn hedd yn ei agosrwydd at Dduw. Cipid ef megys allan o'r corff ar brydiau. Fel Jacob, byddai yntau weithiau fel yn methu gollwng ei afael mewn taer weddi. Pa le y mae'r hen weddiwyr? Profiad llawer, wrth gofio am danynt, sydd gyffelyb i eiddo Mica'r proffwyd, "Fy enaid a flysiodd yr addfed ffrwyth cyntaf."

Rhif yr eglwys yn 1900, 311.

Mae tri o lyfrau gerbron, yn cynwys enwau'r pregethwyr a fu yn Llanllyfni, ynghyda'u testynau, o'r dechre hyd Ionawr 1, 1865, wedi eu cofnodi gan Robert Parry Ty'nyllan. Ni ddaeth y rhestr hon i law dan ar ol gorffen ysgrifennu yr uchod. Cafwyd amryw ddyfyniadau ohoni eisoes, drwy gyfrwng eraill. Yn yr hyn a welir