y naill yn 98 oed a'r llall dros 101, wedi bod yn briod am 77 mlynedd. Ac nid oeddynt hwythau ychwaith yn rhyw gymaint o eithriadau, oddigerth mewn bod yn briod â'u gilydd yn yr oedran hwnnw. Sylwa'r Parch. John Williams Caergybi, a fu yma yn ysgolfeistr am dymor, mai'r peth cyntaf i daro i'w feddwl ef fel hynodrwydd ar y bobl, yn nesaf i'w symledd, ydoedd eu hysbryd ysgafn a chwareus; a dywed fod hynny i sylwi arno ym mhawb, hen ac ieuanc, yr un fath, ac na welodd efe mo'r ysbrydiaeth hwn mor amlwg yn unlle arall. Efe a briodola'r nodwedd hwn ar y bobl i awyr adfywiol y lle. Ac fel y sylwir ganddo ef, hefyd, mae'r cysylltiad agosaf rhwng eu chwareusrwydd â'u hir-hoedledd. Mae'n sicr, yr un pryd, fod rhyw ddifrifwch arbennig, hefyd, wedi bod yn nodwedd ar y bobl, o leiaf yn ardal y Capel Uchaf. Ymhlith pobl y glannau, sef ardal y pentref ac ardal Capel Seion, y mae'r engrheifftiau o'r chwareusrwydd hwn a rydd Mr. Williams. Y cyfryw chwareusrwydd yn ddiau ydoedd waelod naturiol yr angerddoldeb crychiasol a welid yma, yn arbennig yn amser y diwygiadau cyntaf. A thrwy gyfrwng yr angerddoldeb naturiol hwn yr impiwyd i mewn i brofiad pobl y Capel Uchaf, yn yr hen amser, ddifrifwch ofnadwy y gredo efengylaidd. Yno yr oeddys mewn unigedd yn amgylchynedig â dychrynfeydd ysbrydol. Aeth rhai ugeiniau o flynyddoedd heibio cyn adeiladu capel yn y pentref, yr hyn sydd ryw argoel na feddiannwyd mo'r pentref gyn llwyred gan ysbryd Methodistiaeth a'r llethrau unig ger eu llaw. Yr oedd y llan yn ymyl hefyd i rannu'r boblogaeth, ac i roi ei heiliw ar dôn y teimlad. Ac i'r Capel Uchaf yr aeth Robert Roberts i fyw, a dilys yw ddarfod i'r ysbryd tanllyd hwnnw adael ei ddelw yn anileadwy ar y tô a'i hadwaenai, ac i fesur ar doiau eraill yn ddilynol iddynt hwythau. Ac heb son am fod y pentref ymhellach oddiwrth y dylanwad hwnnw, fe ddaeth mewn amser ddylanwad arall i effeithio ar y pentref yn arbennig, gan ostwng yr angerddoldeb a lliniaru'r difrifwch, ac eangu a choethi pob meddwl a theimlad, sef eiddo Eben Fardd. Fe sylwodd John Owen Ty'nllwyn, yn ei bregeth angladdol i Eben Fardd, mai'r tri dylanwad mawr a fu yng Nghlynnog ydoedd eiddo Richard Nanney, Robert Roberts ac Eben Fardd. O fewn terfynau cyfyng yr ardal hon, fe fu dylanwad Robert Roberts yn y naill ffordd, a dylanwad Eben Fardd mewn ffordd arall, mor ddwys a nemor ddylanwad y gwyddys am dano yn hanes Cymru. Fe freintiwyd. yr ardal yn fawr yn y cyfuniad ardderchog hwn o ddylanwadau. Ac os na chodwyd nemor ddynion amlwg i'r byd fel ffrwyth y
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/15
Prawfddarllenwyd y dudalen hon