Genhadaeth. 1849, Medi 2 (6), Thomas John (Jerem. xiii. 23), a'r un flwyddyn, Thomas John Williams, cofiannydd John Evans Llwynffortun. Erbyn 1854, rhif y pregethau am y flwyddyn wedi disgyn i 106, ac o'r rhai hyn nid oes namyn 17 ar ddiwrnod gwaith. Erbyn nos Wener, Awst 29, 1856, y mae Joseph Thomas sir Dre— faldwyn yma (Heb. iv. 16). 1857, Medi 30 (6), ar nos Fercher, dyma Thomas Rhys Davies, y Bedyddiwr (Mat. xvii. 5). 1858, Medi 8 (2), David Saunders (Heb. vi. 19, 20), a'i gyfaill John Jones (Diar. x. 7). 1861, Ionawr 20, fore Sul, "Mr." Morgan Dyffryn (Seph. iii. 17), a'i gyfaill Griffith Williams (Luc xiv. 16). Rhif pregethau 1864, 121, a 10 o honynt ar ddiwrnod gwaith, a pheidio cyfrif pregethau y Cyfarfod Misol a phregeth wylnos.
Golwg eto ar draws y 40 mlynedd yna, a chan adael allan megys o'r blaen bregethwyr y sir, dyna Richard Humphreys Dyffryn, Sul ar ol Sul, am flynyddoedd. Ac ar eu hynt yn awr ac eilwaith hen bererinion cofiadwy, yn eu plith Richard Jones y Wern, John Jones Blaenannerch, Robert Roberts Rhosllanerchrugog, Roger Edwards, Lewis Jones y Bala, Evan Morgans Caerdydd, Richard Jones Mallwyd, William Jones Rhuddlan, Robert Davies Croesoswallt, Daniel Davies sir Aberteifi, John Jones Llanedi, ac eraill nid llai nodedig. Daw ambell un ar dro, nid i ddychwelyd, fel comedau'r llinellau cyfochrog, megys John Mills, y pryd hwnnw o Ruthyn, Thomas Levi (Rhuf. viii. 9), fel cyfaill i David Roberts Abertawe, William Howels, fel cyfaill i Thomas Evans Risca (1859). Ai y prifathro wedi hynny, a wŷs? Pwy bynnag ydoedd, efe ydoedd yr unig un mewn hanner can mlynedd ag y dywedir am dano na phregethodd efe ddim. John Hughes Nerpwl (Luc viii. 18), hefyd, sef y cyntaf o'r enw, John Ogwen Jones (Ioan viii. 12), i ddychwelyd am Sul un waith neu ddwy, a Hugh Jones Llanerchymedd (Dat. xiv. 13). Eithr ni ddylid llwyr esgeuluso proffwydi llai na'r rhai'n, os llai hefyd,—llai heb fod yn llai,—ond o wahanol rywogaethau, rhai ohonynt yn rhyw adar brith ymhlith yr adar, rhai yn rhyw ddrywod bychain, byw, a rhai yn rhyw adar clwydo cartrefol, megys Enoc Evans, Edward Coslet, Dafydd Cadwaladr, Cadwaladr Williams, Ishmael Jones, Richard Bumford, John Davies Nerquis, Ebenezer Davies Llanerchymedd, Joseph Williams Nerpwl, John Jones Nerpwl, Thomas Owen y Wyddgrug, Robert Jones Llanefydd, Dafydd Elias Môn, William Jones sir Aberteify (ai y patriarch o Aberystwyth?), Edward Price Birmingham, Ffoulk