nifer o weithiau yn Llangeitho, lle deuai pregethwyr ynghyd, ar gais am genhadon ar deithiau drwy'r Gogledd.
Methodistiaeth Cymru yw'r awdurdod am y rhan fwyaf o lawer o hanes Brynrodyn yn ei gyfnod cyntaf. Sonir yno am ryw ddydd Sadwrn, pryd y pryderai Elsbeth Griffith yn fawr am nad oedd ganddi luniaeth priodol ar gyfer y pregethwr dieithr a ddisgwylid y Sul. Diau fod hwnnw yn rhywun. Aeth Elsbeth at gyfeilles iddi yn y Foryd, bellter ffordd, i fenthyca swllt. Wedi cerdded yr holl ffordd yno ac yn ol gyda thraed noethion, ow! un goeg oedd y gneuen! Swllt drwg a dywynnai yn ddwl ar gledr llaw Elsbeth druan! Ni ddigalonodd Elsbeth serch hynny, canys yr oedd hi o ddeunydd gwydn. Crynhodd ynghyd y blawd ceirch yngwaelod y gist, ac ymaith â hi gydag ef i Gaernarvon, tua phedair milltir o ffordd. Rhaid fod y gwr dieithr yn rhywun, canys nid diffyg ymborth oedd yn nhy Elsbeth, ond diffyg ymborth cyfaddas i'r fath wr ag ef. Canys, ar ol bod yn Llangeitho yn chwilio am bregethwr, rhaid rhoi rhywbeth o'i flaen ef amgen na thorth geirch.
Ni ddarfu Ifan Sion groesawu pregethu i'w dy pan gafodd ef gyfle, yn y dull y gwnaeth Sion Griffith, pa beth bynnag oedd y rhwystr. Er, fel y gwelwyd, fod yno bregethu achlysurol cyn dyfod o Sion Griffith i'r ardal. Ifan Sion, er hynny, ar ystyriaethau eraill, oedd y dyn mwyaf nodedig. Heb sôn am fod yn fwy pwyllog, yr oedd hefyd yn fwy gwybodus, ac yn meddu ar fwy o ysbryd barn. Ac efe a gafodd argyhoeddiad nodedig. Yr oedd ar y pryd yn gweithio yn un o gloddfeydd y Cilgwyn, a elwid Cloddfa'r-clytiau. Yn gydweithwyr iddo yr oedd William Sion Pandyhen, y blaenor nodedig o Lanllyfni, ac Ifan Sion Caehaidd, ac eraill. Yr oedd pregeth i fod yn Ffridd-bala-deulyn am hanner dydd. Mawr oedd awydd William Sion am fyned yno, ac eto ofn sôn arno wrth ei gydweithwyr, rhag dangos ohonynt anfoddogrwydd. Sôn a wnaeth efe o'r diwedd. "Taw â dy swn," ebe fe o'r Caehaidd. "Taw â dy swn efo dy bregeth, Wil, a dos ymlaen efo'th waith." Distaw, heb ddweyd dim, oedd gwr y Tyddyn mawr, ac efe a ofnid fwyaf. Dyma'r amser i fyny, pa fodd bynnag, ac heb ganiatad ei gydweithwyr, ymaith â William Sion i'r bregeth. Erbyn cyrraedd y lle, pwy a'i dilynai ef, encyd o ffordd oddiwrtho, ond ei ddau gydweithwyr. Hon oedd y bregeth gyntaf a glywodd Ifan Sion Tyddyn mawr gan Ymneilltuwr. Yn y canlyniad, efe a ymunodd â'r eglwys yn Llanllyfni, yr hyn a ddigwyddodd tua'r flwyddyn 1768. Cyn-