Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/160

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Griffith Davies Beudy isaf, a adnabyddid wedi hynny fel y cyfrifydd o Lundain. Daeth ef ymhen talm o amser i gynorthwyo gyda dwyn yr ysgol ymlaen. Cydnabyddai efe ei rwymedigaeth i William Ifan "am ddysgu iddo'r AB," drwy ddanfon iddo o Lundain bâr o ddillad eilwaith a thrachefn. Dewiswyd William Ifan yn flaenor yn 1799, pan yn 26 oed. Ymhen blynyddoedd fe symudodd i Rostryfan, wedi hynny i Landdeiniolen. Gwr o barch ac awdurdod, ac Israeliad yn wir. Yr un pryd y dewiswyd Robert Hughes Llwyn-y-gwalch. Aeth ef i'r Bwlan yn 1815, ar agoriad y capel yno. Yn lled fuan ar ol eu dewisiad hwy y daeth Henry Thomas yma i gadw Tyrnpeg Dolydd. Yr oedd ef yn flaenor cyn dod yma, ac ar ol, ond ni bu ei arosiad yn faith.

Rhoir enghraifft ym Methodistiaeth Cymru o Sion Griffith yn disgyblu. Yr achos oedd Ifan William Sion a Morgan y gwehydd wedi ffraeo a chwffio. Yr oedd Ifan William Sion eisoes wedi ei ddiarddel dair arddeg o weithiau am y cyffelyb drosedd. Efe a ddychwelai yn ol ar ol pob diarddeliad yn ostyngedig ac edifeiriol. Penderfynodd Sion Griffith o'r diwedd, er maint ei ddidwylledd, nad oedd yr ystranciau hyn ddim i'w goddef yn hwy. Wele Ifan yn y seiat, yn ol y diarddeliad diweddaf, yn edifeiriol fel arfer. Methu gan Sion Griffith a dal yn hwy: fe neidiodd ar ei draed: "Welwchi y drefn sydd ar y dyn!" ebe fe. "Mae'n ffiaidd. gen i dy glywed di, Ifan! mi deimlwn ar y nghalon boeri am dy ben di, Ifan!" Allan, gan hynny, y bu raid i Ifan, druan, fyned. Adroddir hefyd am dano yn gofyn barn yr aelodau ar ryw bwnc. Yr oedd hynny cyn y ddisgyblaeth olaf yna. Wrth fyned o'r naill at y llall, eb efe, "Mi basia i Ifan William Sion,—un go anianol ydi o." Sion Griffith yn unig o'r blaenoriaid oedd â'r dull garw hwn yn perthyn iddo. Blinid enaid Sion Griffith yn fawr gan dafarn yn yr ardal ag oedd yn lloches i lawer drygfoes, a chyhoeddodd felltith uwch ei phen. Arferai William Ifan ddweyd, yn ol hynny, fod ffydd wyrthiol yn eiddo Sion Griffith, am iddo felltithio tafarn yr Hen efail, ac iddi yn y canlyniad syrthio i wywdra a diflaniad.

Eithr pa faint bynnag o hynodrwydd a berthynai i Sion Griffith, hynotach nag yntau oedd ei wraig, fel y cafwyd golwg arni mewn. rhan eisoes. Cyfrifid hi yn fwy ei phwyll, yn fwy ei gwybodaeth, yn fwy ei gras na'i gwr. Yn raddol yr addfedai Sion, ar ol ei argyhoeddiad, mewn crefydd ysbrydol, a bu Elsbeth mewn petruster am flynyddoedd rai, a oedd ei grefydd ef o'r iawn ryw ai