Owen Owen ag yn ei frawd Syr Hugh. Hen swyddog cyllidol oedd Henry Pritchard Hafod Ifan, a dreuliodd fore a chanol oes mewn gwledydd tramor yng ngwasanaeth y Llywodraeth, ac wedi ymneilltuo ar ei flwydd-dâl. Dylanwad neilltuol ganddo ar ddosbarth o fechgyn, a medr neilltuol ar linellau hanesiol a daearyddol. Griffith Griffiths oedd wr o Eifionydd, a ddaeth i fyw i Felin Forgan. Gramadegwr oedd ef, a lwyr dreuliodd Ramadeg Parry Caer. Deuai â'r Gramadeg i'r ysgol, achos o gŵyn dost gan yr hen frodyr, wedi dod ohonynt i ddeall am y peth. Ni bu ei arosiad yn y gymdogaeth yn faith, ond yn ystod yr arosiad hwnnw fe agorodd lygaid lliaws o ddynion ieuainc ar fyd newydd, ag yr aeth rhai ohonynt i mewn ymhellach iddo. William Parry hefyd a arweiniodd rai i'r un cyfeiriad a'r Gramadegwr o Eifionydd.
Athraw nid anhynod oedd Meyrick Griffith. Y Wyddor oedd ei bwnc ef y pryd hynny. "Beth ydyw hon?" "B." "Da iawn." "Beth ydyw hon?" "A." "Iä." "Beth ydyw hon ?" "R." "Da, ngwas i." "Beth ydyw hon?" "N." "Iä siwr." "Beth ydyw B-A-R-N-?" "Barn." "Iä, iä." "A fydd Dydd Barn, mhlant i?" "Bydd." Yna elai'r cwestiynau ymlaen o un i un: Pa bryd y bydd Dydd Barn? Pwy fydd y Barnwr ? A gawn ni ein barnu? Wrth ba beth y bernir ni? Holid gyda difrifwch arbennig. Troid y cwestiynau at bersonau: A gei di dy farnu, machgen i? A thithau?
Dosbarth y sillebu a darllen mân frawddegau oedd eiddo Morris Pritchard. Telid sylw manwl i ynganiad. Deng munyd i sillebu ar dafod leferydd ar ddiwedd y dosbarth. Efe a ddechreuai gyda geiriau unsill ac elai ymlaen hyd at eiriau nawsill. Lluniai derfyniadau i ambell air at ei wasanaeth. Un o'r cyfryw oedd, Morgymlawddeiriogrwydd. Rhoddai Morris Pritchard y gair allan bob yn sill, gan daro ei fys blaen ar gledr ei law aswy gyda phob sill, er mawr hwylusdod i'r ysgolheigion. Aeth yn ddiareb yn y gymdogaeth am sillebwr nodedig, "Mae hwn a hwn wedi bod yng ngholeg Morris Pritchard."Gosod allan y synwyr a chwilio'r mater y byddai Ifan Griffith Solomon yn ei ddosbarth ef. Mab ydoedd efe i Griffith Solomon, darllenwr mwyaf ei oes yn y pulpud, fel y cyfrifid ef gan y werin. Yr oedd Ifan Griffith yn deilwng fab i'w dad. Ar ddull cynllunwers y dyddiau hyn y dygai ef ei ddosbarth ymlaen, gan gerdded cam o flaen ei oes.