Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/166

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

allan mewn bloedd fuddugoliaethus uchel, gan roi llam yn y pulpud, "Dyma fo'n dod allan o dynel y bedd ar fore'r trydydd dydd—Gogoniant! Ac y mae o'n aros bellach i godi teithwyr ym mhob stesion—Gogoniant!" Dacw ddyn ieuanc yn ymyl yr oriel yn rhoi naid ar ei draed, gan waeddi, "'Rwan am ddal y tren, bobl!" Yna curai ei ddwylaw ynghyd dan waeddi â'i holl nerth, "O diolch! bendigedig! diolch byth am beidio fy namnio hyd heno!" Rhedodd hynny fel tân gwyllt drwy'r lle, a dyna lle'r oedd y bobl yn gwaeddi a moliannu. Eithr fe ddaliai'r pregethwr ati gan waeddi gyda'r uchaf. "Prif-ffordd yw ffordd iachawdwriaeth, bobl! Ffordd wedi ei digarregu i'r teithwyr. Gogoniant! Ffordd dyrnpeg bob llathen—Go—goniant !" Ydi, y mae hi!" gwaeddai Thomas Hughes y Rugan, "ac y mae y tyrnpeg yn rhydd, a'r Arglwydd Iesu wedi clirio'r giatiau i gyd ar Galfaria." "Mae'r Llywodraeth," ebe'r pregethwr, "wedi rhoi parlamentri trên i bobl gyffredin; ond dyma i chwi barlament trên—ffordd iachawdwriaeth Ffordd o fewn cyrraedd pawb—Gogoniant! Mynwch dicedi yn y parlament trên, bobl!" Darfu i wŷr ieuainc Brynrodyn. anrhegu Thomas Williams, ymhen ysbaid ar ol yr oedfa hon, â merlen, ffrwyn a chyfrwy, a fu o fawr wasanaeth iddo yn ei hen ddyddiau. Yr oedd 80 wedi ymuno â'r eglwys o fewn mis o amser. Rhif yr eglwys yn niwedd 1858, 140; yn niwedd 1860, 216; yn niwedd 1862, 195; yn niwedd 1866, 197.

Bu Robert Lewis o Gaernarvon, y pregethwr, yma am ysbaid yn nhymor y diwygiad.

Yn 1866 dewiswyd yn flaenoriaid: Daniel Eames Felin Forgan, Evan Jones Dolydd, a Richard Eames Tŷ capel.

Ceir cofiant am Daniel O'Brien yn Nhrysorfa 1868 (t. 107), wedi ei ysgrifennu gan fab iddo. Wyr iddo ydyw'r Parch. D. O'Brien Owen. Ganwyd Daniel O'Brien yn Ballylegane, plwyf Ballynoe, swydd Cork. Pabyddion oedd ei rieni, ac felly yntau yng nghychwyniad ei yrfa. Yn ddeunaw oed fe deimlodd ysfa am dramp, yr hyn a edrychid arno yn ddiweddarach ganddo fel cymhelliad dwyfol ar ei feddwl. Glaniodd ym Mristo, cerddodd i Lundain, ac oddiyno i Landegai, Arfon, canys yr oedd wedi clywed yn y brifddinas fod gwaith i'w gael yno. Cafodd yntau'r gwaith hwnnw yng nghloddfa Cae-braich-y-cafn. Yr oedd y pryd hwn yn babydd selog. Ryw nos Sadwrn fe ddaeth Evan Richardson yno i bregethu, ac wrth fod cyrchu mawr i'r oedfa, fe aeth Daniel