Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/169

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hydref 9, 1872, y bu farw Richard Eames Tŷ capel, swyddog er 1866. Ac yntau yn oruchwyliwr y Chwarel Fawr, ffrwydrodd powdwr a drinid ganddo gan achosi ei farwolaeth. Tân y dynamit, ebe'r Parch. J. Jones ar y pryd, fu cerbyd Iôr i gario'i sant i'r nefoedd.

Ebrill 15, 1878, y bu farw Henry Hughes Llwyngwalch, yn 62 mlwydd oed. Aeth o Lanllyfni i Dalsarn yn 1865, a gwnawd ef yn flaenor yno. Daeth yma yn 1874, a chodwyd ef i'r swydd. Ar rai prydiau yn hynod mewn gweddi. Ymddanghosai ei feddwl y prydiau hynny fel yn ymagor ar oleuni y byd tragwyddol, a chodai ei lef yn uwch, mewn ymadroddion cymeradwy a phwyllog, ac ar yr un pryd gyda rhyw ddylanwad disymwth ac anisgwyliadwy, "mal gwth gwynt agwrdd." Nid oedd arwydd o neilltuolrwydd meddwl arno. Gwr syml, diddichell. Selog efo phethau bychain. Ffrwd fechan yn tincian, ac ar dywyniad haul yn disgleirio yn odiaeth. (Goleuad, Mai 11, 1878, t. 13).

Yn 1878 y codwyd William Davies yn bregethwr, ac yn 1879 John Hugh Jones. Ymadawodd yr olaf i Frynrhos yn 1880. Bu farw yn 1883. Yr un flwyddyn y codwyd William Evans yn bregethwr. Aeth ef i'r ysgol i Groesoswallt. Bu am ysbaid yn aelod ym Moriah. Derbyniodd alwad i Millom.

Awst 4, 1879, bu farw Simon Hobley, o fewn ychydig i 88 mlwydd oed. Brodor ydoedd ef o Monk's Kirby, swydd Warwick. Yr ydoedd ei fam, Ann Halford, yn hanu o'r un teulu a Syr John Halford, meddyg enwog yn ei ddydd. Yr ydoedd ei nain, ar ochr ei dad, yn perthyn i'r Bedyddwyr ar un cyfnod yn ei hanes. Y pryd hwnnw y hi ydoedd yr unig un o'r ymneilltuwyr yn y plwyf lle trigiannai, a cherddai o'i phlwyf ei hun i blwyf cyfagos i'r gwasanaeth. Yn rhan olaf ei hoes yr ydoedd yn aelod gyda Chyfundeb yr Iarlles Huntingdon, ac yn ei gwaeledd ymwelai yr Iarlles gyda hi, megys yr oedd ei harfer gyda chleifion y Cyfundeb o fewn rhyw bellter i'w phalas. Hi a wrandawai ar Elizabeth Hobley yn adrodd pennod oddiar ei chof, a dywedai yn ei dull gostyngedig ei hun fod Elizabeth Hobley yn medru adrodd pennod o'r Ysgrythyr oddiar ei chof yn fwy cywir nag y medrai hi ei darllen. Arferai Simon Hobley ddweyd am ei nain, ei bod hi yn hollol hyddysg yn holl gynnwys yr Ysgrythyr, ac, yn wir, fel y dywedai ef, yn medru ei adrodd allan ym mhob rhan ohono ar dafod leferydd. Yr ydoedd