Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/170

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei dad, er hynny, yn ddyn meddw, ac esgeuluswyd ei addysg grefyddol yntau. Eithr fe gafodd gyfle rai gweithiau i glywed Robert Hall, pan oedd efe'n weinidog yn Leicester, ac arferai ddweyd na chlywodd efe mo neb yn pregethu gyda'r fath ddwyster teimlad. Andrew Fuller ydoedd un arall y gwrandawodd efe arno ar dro neu ddau. Fe arferai ddweyd, pa fodd bynnag, ei fod yn gwbl ddieithr i wirioneddau ysbrydol pan ddaeth efe i dref Caernarvon yn ddyn go ieuanc. Daeth yno fel bwtler i'r persondy. Ymhen peth amser fe symudodd i'r Dinas, ger Bontnewydd, fel hwsmon. Pan yno elai i wrando yn bennaf ar y Methodistiaid, a rhyw gymaint ar yr Anibynwyr. Rhoes John Griffith, gweinidog Pendref, Caernarvon, bregeth Seisnig iddo ar un tro, a theimlai yntau yn rhwymedig tra bu byw i'r gwr parchedig hwnnw. Arferai John Roberts y melinydd ag adrodd am dano, mai efe oedd y cyntaf i ofyn pa fodd y cyfarfyddid y draul ynglyn â llosgi'r canwyllau yn y moddion, ac iddo roi swllt i lawr tuag at yr amcan. Yn 36 oed, fe roes ei swydd fel hwsmon i fyny, ac ymroes i'r fasnach mewn blawd, masnach a gychwynnwyd eisoes gan ei wraig. Daeth yn un o brif fasnachwyr y dref. Yr ydoedd yn wr o argyhoeddiadau dwys, a chyson mewn ymarferiadau crefyddol. Cadwai'r ddyledswydd deuluaidd hwyr a bore yn ddifeth. Pan gychwynnai ar daith i Nerpwl bump ar y gloch y bore, rhaid oedd i'r lliaws plant godi mewn pryd i'r gwasanaeth. Darllennid y bennod yn gyfan ynghyda sylwadau Peter Williams arni. Elai yn gyson i'r cyfarfod gweddi am chwech fore Sul ym Moriah. Yn ystod arosiad Christmas Evans yn y dref, elai, ar ol pregeth y bore ym Moriah, am weddill ei bregeth ef. Y gair a arferai i gyfleu ei nodwedd arbennig ef ydoedd meluster. John Elias a John Jones, feallai, a ddylanwadodd yn fwyaf arno. Y cyntaf y diwinydd mwyaf, a'r olaf y mwyaf ei ddawn o bawb yn ei feddwl ef. Clywodd Richard Jones, brawd John Jones, yn gweddïo yn gyhoeddus unwaith, ac arferai ddweyd am dano fod ganddo ddawn angel. John Huxley a gyfrifai efe yn rhagori am gadw seiat. Yr oedd o egwyddor gref. Cynygiodd Frost, y melinydd o Gaer, beidio â gwerthu i neb arall o fewn cylch o ugain milltir ar yr amod na phrynai yntau gan neb arall. Gwrthododd y cynnyg am na fynnai dlodi eraill yn eu masnach, pryd y gwyddai nad allasai derbyn y fath gynnyg lai na dyblu ei fasnach ei hun. Nid oedd unrhyw ystyriaeth o fudd bersonol a safai funyd o'i flaen, os yn anghyson â'r hyn a farnai ef yn uniawn, fel y danghosodd nifer o weithiau mewn achosion lled bwysig. Dyg-