Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/171

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

odd sel gydag ysgoldy Graianfryn. Addfedodd mewn profiad yn ei flynyddoedd olaf. Tymer nwydwyllt oedd ganddo, ond cafodd oruchafiaeth lled lwyr arni yn rhan olaf ei oes. Ym mlynyddoedd ei ymneilltuaeth oddiwrth fasnach, fe elai am o awr i ddwy bob prynhawn i'w ystafell ddirgel. Ac, yn wir, yr oedd ei fyfyrdod yng nghyfraith yr Arglwydd drwy gydol y dydd. Dywedodd wrth y Parch. Evan Roberts, Engedi y pryd hwnnw, ddarfod iddo gymeryd Llyfr y Diarhebion yn gynllun iddo'i hun yn gynnar ar ei oes. grefyddol. Yr oedd yn lled gydnabyddus â holl gynnwys y Beibl, a llawer ohono air yng air yn ei gof yn y Gymraeg a'r Saesneg. Er yn wr cryf o gorff a chryf o garictor, yn Sais trylwyr yn ei gymeriad cyffredinol, eto yr oedd yn ei brofiad crefyddol wedi cymeryd y ffurf Fethodistaidd Gymreig yn gyfangwbl. Yn ofnus ac anhyderus am ei gyflwr ei hun, fe barhaodd hyd y diwedd i rybuddio a chynghori ei liaws plant ac ŵyrion yn y modd mwyaf difrifol ynghylch eu cyflwr gerbron Duw. Bu farw mewn hyder tawel. Rhoddwyd mwy o le i'w hanes ef yma oblegid prinder defnyddiau yn egluro dylanwad Methodistiaeth ar rai o genedl arall.

Yn 1880 y sefydlwyd eglwys ym Mrynrhos, yr hyn a wanhaodd. yr eglwys a'r gynulleidfa yma yn fawr. Yn niwedd 1879 yr eglwys yn 330; yn niwedd 1880, 233. Erbyn diwedd 1881 yn 256. Yn 1881 dewiswyd yn swyddogion: Thomas Hughes Grugan Wen, Thomas Jones Glangors, William Eames Tŷ capel. Aeth William Eames i Crewe yn y flwyddyn 1882.

Ymfudodd William Davies i'r America yn 1889, gan dderbyn galwad o Dakota.

Hydref 15, 1890, yn 74 mlwydd oed, y bu farw Daniel Eames, yn flaenor er 1866. Masnachwr llwyddianus a deallus. Bu'n arolygwr yr Ysgol am 15 mlynedd. Cyfrifid ef yma yn arolygwr dan gamp.

Yn 1893 y dewiswyd Owen W. Jones ac Evan T. Hughes yn flaenoriaid. Bu Owen W. Jones farw Ebrill, 1900. Yn wr gonest a ffyddlon, o dduwioldeb diamheuol, ac yn flaenor cymeradwy.

Yn 1894 y daeth Mr. John Jones yma o'r Bwlan.

Yn 1895 y bu farw Griffith T. Edwards, wedi gwasanaethu'r swydd o flaenor am 40 mlynedd. Gwr da, ac yn gwir ofalu am yr