Gerlan Bach, Robert Evans Cae'rbongam (cynorthwywr), William Hughes Llwyngwalch, William T. Parry Frondeg, Griffith Hughes Gruganwen, Richard Eames Tŷ capel, Henry Jones Groeslon, Rowland J. Thomas Groeslon, Robert Lewis Jones Groeslon. Coffawyd eisoes y bu Robert Lewis yma yn ystod tymor y diwygiad, neu ran ohono, a diau ddarfod iddo ef fod o fawr gymorth am y pryd gyda chaniadaeth y cysegr, canys yr oedd efe yn gerddor gwych, ac yn dwyn mawr sel gyda'r rhan hon o'r gwasanaeth.
Buwyd am yn agos i hanner canrif yn cynnal cyfarfodydd gweddi mewn tai ar gylch yn yr ardal. Cynelid hwy yn rheolaidd am wyth ar y gloch fore Sul, ac yn achlysurol ar nosweithiau'r wythnos, pan atelid rhai gan lesgedd rhag dilyn y moddion cyhoedd Rhennid y gymdogaeth yn ddwy ran i'r pwrpas yma, o boptu'r capel, y naill ran ydoedd "Dosbarth y Dolydd," a'r llall, "Dosbarth y Groeslon a Rhosnenan." Cyhoeddid y moddion yn y capel, a nodid brodyr i'w cynnal. Heblaw hyn, fe gynelid cyfarfod gweddi yn y capel ei hunan unwaith o leiaf bob Sul. Yn ystod y blynyddoedd 1841—5, byddai hynafwragedd yr eglwys yn cynnal cyfarfod gweddi ar awr gyntaf y prynhawn ar ddiwrnod y gymdeithas eglwysig. Fe fernir fod llawer o lwydd yr achos yn ddyledus i'r cyfarfodydd gweddi lliosog hyn.
Cafodd yr achos dirwestol ei le yma, yn ffurf Cymdeithas Cymedroldeb i gychwyn, a llwyrymataliad wedi hynny. Cynelid y cyfarfod bob bythefnos, a chymerai'r plant eu rhan ynddynt. Edrydd Mr. Owen Hughes am henwr yn codi i fyny dan gynhyrfiad yr awen, bondigrybwyll:
Mae Dirwest fel Cei Porthdinllaen,
Ni welwyd yn Ffrainc nac yn Spaen
'Rioed waith gyn netied a Chei Porthdinllaen.
Elai'r hen frawd ymlaen gan draethu ei lên i'r perwyl na welodd. yntau ddim erioed gyn netied a Dirwest, ei bod yn gwneud i feddwon. gynt gerdded yn sad, gan eu hwylio adref cyn nôs, a'u cadw ar aelwyd gynnes y teulu. Bu'r Clwb Du a Themlyddiaeth Dda yn uchel eu bri yma.
Yn 1855 fe ddechreuwyd ar gyfres o gyfarfodydd, dan wahanol enwau, ag y mae lle i gredu i'w dylanwad fod yn llesol. Cyfarfod Moes ydoedd un o'r rhai cyntaf. Darllennid Moeslyfr John Roberts. Llanllechid, a gwneid sylwadau arno gan un a benodid i'r amcan. Gwersi ar foes cyffredin, gan roi esiampl o'r wers ar y pryd. Ceid