anerchiadau mewn ffordd o amrywiaeth ar bynciau ar wahanol. fath, megys Meyrick Griffith ar Ddaearyddiaeth Gwlad Canaan, ei bwnc mawr ef. Y Cyfarfod egwyddori fyddai er paratoi rhai ar gyfer eu derbyn i'r Sacrament. Y Cyfarfod darllen a gynhaliwyd yn gyntaf brynhawn Sul, ac yna am naw fore Sul, a phery felly. Heblaw egluro'r Beibl, buwyd uwchben Diwinyddiaeth Paley, Cyfatebiaeth Butler, ac Athrawiaeth yr Iawn Dr. Edwards yn y cyfarfodydd hynny. Cymerid y gofal gan William Parry, Griffith T. Edwards, Evan Jones, a phan y byddent adref, gan John Jones a John Davies. Yr oedd y Cyfarfod Llenyddol yn un undebol, rhwng ysgolion Sul dosbarthiadau Clynnog ac Uwchgwyrfai, fel y gelwir hwy yn awr, ond y pryd hwnnw un dosbarth oeddynt. Cyfarfod blynyddol yn y gwahanol leoedd ydoedd. Ar y cychwyn cynelid ef ym Mrynrodyn ym mis Medi, yr wythnos olaf o'r mis; ond ar ol hynny ar y Nadolig. Ymunwyd â Rhostryfan ar hynny, am rai tymorau, ond yna y ddau le ar wahan ar y Nadolig, a'r lleoedd eraill ar brydiau eraill. Mae'r amrywiaeth hyn o gyfarfodydd, ar Sul, gŵyl a gwaith, wedi bod yn nodwedd ar y lle.
Ym Mrynrodyn, yn 1779, dan bregeth David Jones Llangan, ar y geiriau, "Trowch i'r ymddiffynfa" yr argyhoeddwyd Robert Roberts, yn llencyn un arbymtheg oed. Yng nghapel Brynrodyn y cafodd Robert Roberts y tro hynod hwnnw, pan ddisgrifiai berygl pechaduriaid oddiwrth y gymhariaeth o'r llanw yn cau am bobl yn chware ar lecyn ar y tywod, pryd y ffodd nifer mawr allan mewn dychryn, gan dybied ar y funyd mai hwy oedd y chwareuwyr a ddisgrifid. Mewn Cyfarfod Misol ym Mrynrodyn yn 1794 y derbyniwyd John Elias yn aelod o'r Cyfarfod, ac y newidiwyd ei enw gan John Jones Edeyrn, o fod yn John Jones i fod yn John Elias, oddiwrth enw y tad, sef Elias Jones. Gwŷr a fagwyd ar fronnau'r Ysgol Sul yma, fel y gwelwyd, ac a fuont wasanaethgar eu hunain ynddi, oedd Griffith Davies y cyfrifydd a John Parry Caer. Yn yr ardal hon y ganwyd Griffith Solomon. A chafodd yr eglwys i'w bugeilio, yng ngwir ystyr y gair, yn ei blynyddoedd bore, neb amgen, fel y gwelwyd, na John Roberts, wedi hynny o Langwm. Nid y lleiaf o nodau arbennig yr eglwys hon ydyw, mai yma y magwyd David O'Brien Owen, goruchwyliwr cyntaf Llyfrfa'r Cyfundeb.
Fe gyfeirir gan Mr. Daniel Thomas at William Griffith Dolydd, yr hwn y dywed y byddai gyda'i ddeigryn gloew a'i Amen cynnes, a'i "O diolch !" yn gwresogi'r moddion, ac yn codi rhyw iâs hyfryd,