Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/179

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Penybwth, Robert Jones Rhiw, William Morris Glanrafon, Rhys Owen Llandwrog, Dafydd Thomas Lodge, William Prichard Penyboncan a Morris Jones Bwlan. Bu'r rhai hyn oll yn arolygwyr yn eu tro ac yn dra ffyddlon a selog gyda'r ysgol. Eglwyswr ydoedd Hugh Jones Penybwth hyd o fewn ychydig i ddiwedd ei oes. Yr oedd ef yn gerddor medrus, a bu o fawr wasanaeth gyda'r ysgol ar y cyfrif hwnnw. Olynydd Griffith, y person, oedd mor elyn— iaethol i'r ysgol ag ydoedd ef o gefnogol iddi. Efe a ddeuai heibio'r ysgol, gan orchymyn y plant i'r llan. Elent hwythau gydag ef rhag ei ofn; ond pan gaent gyfle diangent oddiarno, gan ddringo dros y cloddiau neu ymguddio o'r tu ol i'r perthi. Fel yr oedd un ohonynt ar dro yn dianc oddiarno dros y clawdd, ebe Methodistiaeth Cymru, dyma gic effeithiol iddo o'r tu ol oddiwrth y person. Llwyddodd y person lle methodd un o'r tylwyth teg, yn ei gais i gyflawni'r cyffelyb wrhydri—ond gyda'i ddwrn yn lle ei droed—gydag Edward Williams, Rotherham wedi hynny, ond y pryd hwnnw yn hogyn ysgol ger Dinbych. Wedi ysbio yr oedd Edward ar gylch y tylwyth teg ar eu dawns, pryd y torrodd un o honynt allan o'r cylch, gan ymlid yn ffyrnig ar ei ol ef. Fel y diangai'r hogyn drwy'r gwrych, ebe'r coblyn, gan anelu yn deg am dano, 'Dyna glap y wrach iti! Methu gan y coblyn yn ei amcan, pa ddelw bynnag, a diangodd yr hogyn i ysgrifennu ei Equity of the Divine Government! Ni ddywed y Methodistiaeth pa beth a ddaeth o hogyn y Bwlan, prun a droes efe allan yn felltith ei fam ai peidio!

Yr oedd Morris Jones, taid y Mr. Morris Jones Bwlan presennol, yn berchennog fferm y Bwlan. Ar ol dod ohono yn aelod eglwysig, ym Mrynrodyn debygir, fe roes dir ar ei fferm i adeiladu capel arno. Bernir fod hynny tua'r flwyddyn 1815. Nid oes le i ameu nad ar agoriad y capel y sefydlwyd yr eglwys. Yn yr ysgrif o Frynrodyn fe ddywedir mai ar agoriad capel Bwlan yr aeth Robert Hughes Llwynygwalch yno o Frynrodyn.

Yr oedd gan rywun ryw led—gof fod traul y capel cyntaf hwn yn £400, swm a ymddengys braidd yn fawr, gan nad oedd y gynulleidfa, debygir, ond bechan. Ryw gymaint yn ddiweddarach na'r capel y codwyd y tŷ capel, ac y rhoddwyd dwy lofft ar y capel ei hun. Credid fod y draul ychwanegol hon yn £200.

Hanes cyfnod y capel cyntaf sydd dra phrin. Enwau yn unig braidd, sy'n aros. Isaac Williams Caehalen mawr, oedd gyda'r