ddengys. Teimlid eneiniad ar ei bregeth. Cymherir ef gan Robert Ellis, o ran ei ddawn enillgar, nawsaidd, i Cadwaladr Owen. Perchid ef yn y wlad ar gyfrif ei ymroddiad i'w waith, a chyfrifid ef yn wr da a duwiol. Bu farw ynghanol oed gwr, ac yr oedd yn wr priod pan ddechreuodd bregethu. Bu ei dymor yn gymharol fyrr-rhyw saith neu wyth mlynedd-a thymor yr adfywiadau ydoedd. Bu ei bregethu ef yn Niwbwrch yn gychwyn adfywiad lleol, a adwaenid yno am amser fel "diwygiad Griffith Williams Bwlan." Dyma ddisgrifiad William Jones Tŷ mawr ohono: Dyn byrr, trwchus; gwyneb llydan, a'i wallt o liw goleu; ei lygaid yn lled lawn ac o liw melynddu. Golwg wladaidd. Arferai siarad yn bwyllog, a cherddai yn wastad yn araf a synfyfyriol." Y disgrifiad yn cyfateb yn hollol i'r syniad am dano yn y wlad. Gwr ydoedd hwn ag adnoddau nwyd guddiedig yn gorwedd o'i fewn. Er hynny, nid oedd William Jones, na neb arall yn yr ardal at ddiwedd y ganrif, yn cofio cymaint a gair o'i eiddo allan o bregeth neu ar achlysur arall. Efe a fu farw yn orfoleddus.
Yn Awst 1859 fe ddechreuodd John Owen bregethu. Yr oedd efe yn flaenor er 1853. John Davies y cyllidydd oedd yn ei holi, ebe Betsan Owen. Gofynnai'r holydd, "Beth oedd yn peri i chwi feddwl am bregethu ?" Atebai'r ymgeisydd, "Caru gweithio dros y Gwaredwr yn well nag ydwyf." Un o destynau John Owen oedd, "Saith o wragedd a ymaflent mewn un gwr." A dywedai fod llawer ym mhob eglwys yr un fath, yn hidio dim am grefydd ymhellach na bod yr enw arnynt. Fel yr ymwelwyr yn galw yn y seiat unwaith yn y flwyddyn, ond ddim ar un noswaith arall heblaw honno. Yr oedd John Owen, pa ddelw bynnag, o dymer ry frwd i fedru dal ati gyda'r pregethu heb niweidio'i iechyd, a gorfu arno roi goreu iddi ymhen rhyw dair blynedd. Dyma'i destynau ynghapel Llanllyfni: Sechariah ix. 12, Trowch i'r amddiffynfa; Rhufeiniaid i. 16, 17, Canys nid oes arnaf gywilydd o Efengyl Crist; Ephesiaid ii. 12, Eich bod chwi y pryd hwnnw heb Grist; Luc xv. 20, Ac efe a gododd ac a aeth at ei dad; Ioan xx. 31, Eithr y pethau hyn a ysgrifennwyd fel y credoch chwi; 1 Corinthiaid iii. 11, Canys sylfaen arall nis gall neb ei osod; 2 Corinthiaid vi. 2, Canys y mae efe yn dywedyd, Mewn amser cymeradwy y'th wrandewais; 2 Petr iii. 9, 10, Nid ydyw'r Arglwydd yn oedi ei addewid.
Yr oedd y naill a'r llall yn dod i'r eglwys yma yn nechreu a chanol y flwyddyn 1859, fel rhyw flaen-ddiferion o'r gawod. Yr