Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/188

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mheth bach clws i, 'rwyti'n llawer callach na'th dad, 'rwyti wedi dod i'r seiat o'i flaen o!" Pwy oedd yn y seiat nesaf ond y tad hwnnw! Yr oedd y dyn yn tywynnu allan yn y pregethwr. Unigrywiaeth oedd ei nodwedd fel dyn ac fel pregethwr. Nid elai'r unigrywiaeth yn hynodrwydd. Siaradai yn naturiol. Dywedai geneth o forwyn, ar ol ei wrando unwaith, mai siarad oedd y pregethwr hwnnw ac nid pregethu. Dywedai'r Parch. Thomas Roberts yn ei gynhebrwng mai'r rhan gyntaf o'i bregeth oedd yr oreu, er fod y rhan olaf ohoni yn dda, wedi ei threiddio gan nwyd sanctaidd; ond y gwelid ei feddwl yn gweithio yn y rhan gyntaf, yn symud y rhwystrau ac yn palmantu ei ffordd at y nôd. Eithr nid oedd hynny ychwaith wir bob amser. Yn ei flynyddoedd olaf, o leiaf, fe fyddai yn aml yn y rhan gyntaf yn ymbalfalu heb gael gafael. A'r un modd yn ei gyfarchiadau ar adegau, yn y Cyfarfod Misol a lleoedd eraill. Ond odid na tharawai efe'r hoel ar ei phen cyn dibennu, pa ddelw bynnag. Fe godai ar dro yn rhannau olaf ei bregeth i ryw rymusder ysgubol. Rhyw hwyl hunanfeddiannol ydoedd yr eiddo ef. "Y mae arna'i awydd rhoi bloedd yn y fan yma!" Ac yna bloedd o'i rhywogaeth ei hun, bloedd yn deffro cywreinrwydd ac awch disgwylgar, ond nid yn cymeryd meddiant ar bob cynneddf ar unwaith, fel eiddo'r Dafydd Morris arall hwnnw o'r Deheudir gynt. Fe fyddai ganddo ambell i sylw a lynai yn y cof, megys yr un a edrydd Mr. J. J. Evans, a glywodd efe ganddo pan yn llencyn. Pregethu yr ydoedd ar y geiriau, "Gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain." Eglurai mai ystyr "gweithio allan " gweithio allan " yma ydoedd gwaith y mwnwr yn tyllu drwy'r graig: rhyw ddiwrnod fe dyrr drwyodd i oleuni dydd. Gweithio allan iachawdwriaeth ydyw ei gweithio allan i amlygrwydd yngwydd y byd. Fe ddeuai pregeth Dafydd Morris fel wê pryf cop allan o'i fol ei hun. Gweuai ei we yn eithaf main ac yn eithaf hamddenol, gan sicrhau bob pen â glud ar ystlysau y gornel ym mhlasdy'r brenin. Yr oedd efe, hefyd, yn wr o gynghor yn y Cyfarfod Misol. (Goleuad, Hydref 16, 1886, t. 12; 23, t. 8, 10; 30, t. 7.)

Daeth Thomas Williams y Wylfa yma o'r Fron, Llanfaglan. Yr oedd efe yn swyddog ym Mhenygraig, a galwyd ef yma. Oddiyma efe a aeth i Glanrhyd yn 1899.

Yn 1892 y daeth John Rogers yma fel bugail. Yr oedd tŷ y gweinidog wedi ei adeiladu erbyn 1894. Y tir, sef yr wythfed