a hanner o ffordd at wasanaeth y Sul. Arosai yn yr ardal at oedfa'r hwyr, er mwyn cael yr hufen i gyd. Deuai ei gwr, yr hwn na ddilynai y moddion ei hun, i'w chyfarfod ar y ffordd yr hwyr. Os y byddai'r tywydd yn ddrycinog, hi arosai dros y nos. Gwnaeth hynny'n gyson am ddeugain mlynedd. Gan Marged Evans Cae Lywarch fe geid profiad ym mhob seiat. Ebe hi unwaith, " 'Does dim yn bosib cael dim gwell na gair Duw yn y cof. Mor ryfedd yw'r ymadrodd hwnnw, 'Bachgen a aned i ni, Mab a roddwyd i ni.' Bachgen'—mor agos atom!" Pethau o'r fath i'w cael ganddi nid yn anaml. Ar ol i Rhys Owen gadw'r ddyledswydd a myned at ei waith, fe fyddai Catrin ei wraig, sef merch Robert Roberts Clynnog, yn gweddïo arni ei hunan am ysbaid hanner awr. Bu yn arferiad gan ryw rai fyned tuag yno mewn modd dirgelaidd i'w gwrando. Hi a'i gwr wedi dod yma o ardal y Capel Uchaf at ddiwedd eu hoes. Marged Davies Penycae ac Ann Roberts Ty'nlonddwfr oedd ferched neilltuol o ran crefyddolder eu hysbryd. John Elias yn ewythr i Ann Roberts, o gefnder ei thad. Hi oedd y ddiweddaf yn yr ardal i wisgo'r hen het silc fawr. Mrs. Williams, gwraig y Capten Henry Williams, oedd nodedig yn ei chrefyddolder. Tra lletygar i bregethwyr Hi a'i gwr o gymorth mawr i'r achos. William Thomas Caehalen bach, gwr cymhariaeth yr elor, mae'n debyg, oedd gofiadur hynod. Adroddai am chwarter awr bregethau a glywodd er's degau o flynyddoedd. Dafydd Morris yn cael mêl ar ei fysedd wrth wrando arno, ac yn myned i'r hwyl ei hunan ar ei ol. I John Williams Ysgubor fawr, y lle nesaf i'r nefoedd yn y byd i gyd oedd capel Bwlan. Dyma adroddiad yr ymwelydd, adeg Canmlwyddiant yr Ysgol: "Dechre yn brydlon. Prin neb yn dilyn y wers—daflen. Cedwir ysgol y plant mewn ystafell gyfleus. Defnyddir y gwers-lenni yno, ond nid yn ddigon cyffredinol. Canu yn cael ei ran deg o'r amser yma. Yr arolygwr yn deall ei waith. Athrawon cymwys. Holi gwell na'r cyffredin ar y diwedd.—John Roberts."
Dywed Mr. Edward Owen na welodd efe erioed mo'r gras o brydlondeb a chysondeb gyda'r moddion yn fwy amlwg yn un man nag yn y Bwlan yn yr amser a gofir ganddo ef.
Rhif yr eglwys ar ddiwedd 1892, 232; ar ddiwedd 1900, 237.