Mae mymryn o hanes cyfarfod trimisol Talsarn am Hydref 3 a 4, 1842, sef y Cyfarfod Misol arbennig a gynhelid bob chwarter, wedi ei ddanfon i Drysorfa Tachwedd o'r flwyddyn honno. Ym mhrinder cofnodion cyffelyb yn y cyfnod hwnnw, fe deifl yr adroddiad fyrr-lygedyn ar bethau. Nid yw ond am ddiwrnod y pregethu. Am 10, dechreuwyd gan Evan Williams Pentre ucha, a phregethwyd gan G. Hughes Edeyrn (Iago i. 2-4) a John Jones Tremadoc (Hebreaid xii. 28-9). Am 2, dechreuwyd gan W. Roberts Clynnog, a phregethwyd gan O. Thomas Bangor (Luc xxi. 32) a James Hughes Lleyn (Salm xlvi. 5). Am 6, pregethodd Robert Hughes Uwchlaw'r ffynnon (Datguddiad xx. 12) a D. Jones Llanllechid (Eseciel ix. 4). Dywed John Hughes Penygroes, y gwr a ddanfonodd yr adroddiad, fod yr hin yn gysurus y diwrnod hwnnw, y torfeydd yn lliosog, a'r nef yn gwenu.
Oddeutu 1842 y sefydlwyd cangen-eglwys Cesarea, ac yr ymadawodd tua deuddeg o'r aelodau oddiyma yno.
Hen gono, fel y dywedai Daniel Owen a phobl sir Fflint, oedd tad Robert Owen Tŷ draw, yntau y tad o'r un enw a'r mab. Yr oedd yn well gan Frances, geneth John Jones (yn fyw o hyd o dan yr enw Mrs. Jones Machynlleth), fyned drwy'r drws isel i Dan y fawnog, lle preswyliai ef, nag i unlle arall braidd. Un peth roe awch ar fwynhad Frances oedd, fod ar bobl ieuainc eraill ofn yr hen grasbil tawedog, aflonydd, chwimwth ei symudiadau. Ni feiddiai ungwr gellwair yn ei ŵydd. Eithr fe ollyngai heb yn wybod iddo ddywediadau cramp a wnelai i bobl eraill chwerthin heb yn waethaf iddynt. Meistr corn yn ei dŷ, a rhaid fyddai i bawb fyned i'r capel bob tywydd, er myned. yno ar hyd ffordd beryglus yn y nos. "Dowch hogia," eb efe, a dyna'r bechgyn yn ei ddilyn i'r ysgol Sul fel rhes o ddefaid ar hyd y llwybr caregog. Yn ei ddosbarth, dyna glewtan yn diaspedain dros y capel i ryw hogyn direidus. Ebwch ar ol ebwch oedd ei ganu, â'i law dan ochr ei ben. Amen grasboeth, ebe Frances, pan fyddai hwyl yn y seiat, a'i ddagrau yn tywallt i lawr ei ruddiau. Gwnelai bopeth ofynnid iddo. Dyma fo'n gadeirydd cyfarfod dirwest. Ei hogiau ef ei hun wedi dod i mewn yn hwyr, ar ol troi i mewn i'r siop. Golwg guchiog arno pan welodd hwy yn dod i Codi ei aeliau yn fwäau mawrion, ac yn galw ar Owen ei fab i siarad. "'Does gin i ddim byd neilltuol i'w ddweyd heno," ebe Owen. "Wel a hai," ebe'r tad, "nag oes mi wn, wedi bod