Oddeutu'r flwyddyn hon y dechreuodd Robert Owen bregethu, ac yntau yn flaenor eisoes er 1846.
Yn 1853 y bu farw Robert Griffith, sef y blaenor cyntaf, a ddaeth yma i'r tŷ capel o Fryn coch, ac a arweiniai yma wedi bod yn flaenor yn Llanllyfni er 1813. Aeth i drigiannu o'r tŷ capel i Ben yr yrfa, a byddai'n cerdded filltiroedd i'r moddion ar y Sul ar ol myned i wth o oedran. Yn wr cywir, ffyddlawn, selog, ac yn ofn i weithredwyr drwg. Pan yn byw yn y tŷ capel, yr hwn, ebe Mrs. Jones Machynlleth oedd o dan yr untô a'r capel, byddai Fanny Jones, Mrs. Jones Coedmadoc, a hithau Frances a rhai o'r plant eraill yn troi i mewn ar ol oedfa, ynghyda'r blaenoriaid. Llawer ymgom ddifyr a glywodd Frances yno o bryd i bryd, weithiau gyda William Morris Cilgeran a'i gyfaill, weithiau gyda John Jones Blaenanerch a'i gyfaill, neu gawr arall a'i gor, yr hyn a bâr i Mrs. Jones Machynlleth dorri allan yn yr adgof am danynt, "O, hen ystafell gysegredig !" Robert Griffith fyddai'n gofalu am y ceffylau, a Lowri ei ferch yn paratoi bwyd, a Marged Thomas yn gweini wrth y bwrdd. Gwr tawedog oedd gwr y tŷ capel, ac fel yr hen Angell Jones y Wyddgrug, yn Galfin i'r gwraidd, neu'n is na hynny braidd, ys dywed Glan Alun am dano. Yr oedd Frances yn gwrando ar ei thad yn pregethu yn y capel ar un tro, ac a aeth gydag ef yn ei law i barlwr y tŷ capel. Dyma Robert Griffith ar eu hôl, ac ebe fe, "John Jones, cadwed fy Nhad nefol fi rhag credu yr athrawiaeth a bregethasoch heno." Wel," ebe John Jones, gan drin ei bibell yn hamddenol, "beth ddeudais i, Robert Griffith ?" "Wel, ni ddarfu i chwi ddim crybwyll yr un gair am waith yr Ysbryd." "Wel, feallai naddo, ond nid dyna fater fy mhregeth i heno. Ni ddarfu i mi ei wadu, ai do, Robert Griffith ?" "O, naddo siwr." Gorffennai'r cwbl gyda gwên ysgafn yn chware dros wyneb John Jones. (Cofiant Robert Owen, 17-8).
Symudodd Robert Owen i Gader Elwa yn Eifionydd yn 1856. Ei dad ydoedd ef, wedi ei ddiwyllio, a chyda mwy o gallineb y sarff na feddai'r hen wr, ond nid heb rywbeth o'i ddull agored yntau. Wyneb sir Gaernarvon, fel y gwelir yn ei lun yn y Cofiant, ynghydag aeliau bwaog ei dad. Pwyslais yr hen wr, sef pwyslais sir Gaer- narvon, ys dywedai Daniel Owen am dano ef, a phendantrwydd yr hen wr, ynghyda rhywbeth o'i ddisgyblaeth yn y tŷ. Yr ydoedd efe yn enghraifft o ddyn a ddaeth yn deg o dan ddylanwad John Jones, heb nemor fanteision addysg. Efe a arferai ddweyd fod