gweld tucefn cystled ag o'i flaen!" Elai Mr. Jones i'r un dosbarth yn yr ysgol Sul a John Lloyd Jones, mab hynaf John Jones, a dywed ddarfod iddo y pryd hwnnw dderbyn argraff oddiwrtho ei fod yn ddyn galluog. Am un seiat yn unig y mae gan Mr. Jones ddim cof neilltuol. Yr oedd John Jones yno yn myned dros yr hyn oedd wedi ei adrodd iddo yn flaenorol, yn ei deulu, debygir, o bregethau y Sul. Adroddai yn helaeth iawn, fel y synnai Mr. Jones at ei gof. Traethai hefyd yn helaeth ei hun i'r un cyfeiriad gyda grym a newydd-deb ac effeithiolrwydd, y cyfryw fel y synnai Mr. Jones drachefn yn fwy at ei allu meddwl a'i ddawn nag at ei gof. Efe a gafodd gyfle hefyd i ymddiddan â John Jones rai gweithiau. Cof ganddo am un ymddiddan. Adroddai John Jones am dano'i hun yn dychwelyd o Gapel Curig ar un nos Sul, a'i fod ar gopa y ffordd sy'n troi ar y chwith i Lanberis, lle mae tŷ tafarn, pryd y disgynnodd i lawr oddiar gefn ei geffyl, ac ar y wàl yn y fan honno fe ysgrifennodd un o'i donau, ag oedd yn ystod y munydau blaenorol wedi rhedeg drwy ei feddwl. Ysgrifennu y prif lais yn unig a wnae efe, a gadael i rywun arall cyfarwydd yn ol hynny ddodi i mewn y lleisiau eraill. Yn yr un ymddiddan, fe feiai John Jones y Parch. David Hughes Tredegar am fod â llaw ganddo yng nghyfieithiad Addysg Chambers i'r Bobl, am y cyfrifai efe fod tuedd atheistaidd yn y gwaith hwnnw. Wrth ei weled ef yn cael ei ddyrnodio yn o drwm, dywedodd Mr. Jones rhywbeth ymhlaid David Hughes, gan ychwanegu mai Arthur Jones Bangor oedd wedi ei gymell ef i bregethu. Ebe John Jones, "Mi wnae Arthur Jones y diafol yn bregethwr, pe buasai côt ddu am dano !" Cŵyn Mr. Jones ydyw nad oedd llawer o ysbryd ymchwil i bethau cyffredin yn yr ardal y pryd hwnnw. Methu ganddo er ceisio a sefydlu cymdeithas lenyddol yn y lle. Cyhoeddwyd Mr. Jones i roi darlith ar ddaeareg ar un achlysur. Pump neu chwech yn unig a ddaeth ynghyd. Nid oedd dim cefnogaeth i'w gael gan neb i amcanion o'r fath, oddigerth yn unig gan William Hughes. Bu yn yr ardal eisteddfod yn amser Mr. Jones, pryd y gweithredai ef fel cadeirydd yn y bore. Tanymarian oedd y llywydd. Yn Nhalsarn y cafodd Mr. Jones y syniad cyntaf erioed i'w feddwl am fyned yn bregethwr. Yr oedd ganddo ef y pryd hwnnw ddosbarth dan ei ofal, a llanc yn y dosbarth a awgrymodd hynny iddo, heb fod y fath feddwl erioed o'r blaen wedi gwibio ar draws ei ddychymyg.
Yn ystod 1857 y sefydlwyd cangen-ysgol Baladeulyn, gyda John Lloyd Jones yn brif offeryn.