Fe ddaeth Evan Owen yma yn 1857. Bu am dymor maith, yn ol hynny, yn y Baladeulyn, ond fe ddychwelodd yn ol yma i aros am weddill ei oes.
Edward Davies, yn ddiweddarach o'r Porthmadoc, a alwyd yn flaenor ac ar ol hynny yn bregethwr yn eglwys Pennant. Bu yma am ysbaid cyn ymadael ohono i'r Porthmadoc yn 1857, lle bu farw, Mawrth 11, 1895. Gwr hynaws a'i bregethu yn gymeradwy.
Bu John Jones farw Awst 16, 1857, yn 60 mlwydd oed, wedi dechre pregethu er 1821, wedi ei ordeinio yn 1829, ac wedi bod yn aelod o'r eglwys hon er 1823. Am Awst 16, sef y Sul, y mae Robert Ellis Ysgoldy wedi ysgrifennu yn ei ddyddiadur, "John Jones Talsarn yn marw." Yna ar y Llun canlynol, "Ow! Ow! gwr mawr wedi cwympo. Syrthiodd y goron oddiar ein pen. Chwith i Gymru fydd bod heb John Jones." Ar hyd ymyl y ddalen am Awst 16—23, y mae'n ysgrifenedig ganddo, "Wythnos dywell: John Jones yn gorff!" Yr oedd Robert Ellis y Sul dilynol yn pregethu yn Nhalsarn yr hwyr, wedi bod ym Mhenygroes y bore a Cesarea y prynhawn. Ei destyn yn Nhalsarn, Actau xiii. 36, "Canys Dafydd, wedi iddo wasanaethu ei genhedlaeth ei hun drwy ewyllys Duw, a hunodd, ac a ddodwyd at ei dadau." Y mae enw John Jones yn yr ardaloedd hyn yn anwahanol gysylltiedig âg enw Fanny Jones ei wraig. Yn Fanny Jones fe gafodd un cwbl gymwys i gymeryd gofal eu masnach arni ei hun, ac i'w ryddhau yntau yn o lwyr i waith ysbrydol. Defnyddiodd yntau ei gyfleustra. Cerddai ol a blaen ar yr allt goediog gerllaw y tŷ â'i ddwylaw ar ei gefn mewn myfyr fel mewn hun. Rhoir enghreifftiau yn ei Gofiant o'i allu i anghofio'i hun mewn dwys-fyfyrdod. Arferai Robert Owen Tŷ draw ag adrodd am dano yn sefyll â'i gefn ar dalcen y tŷ, a rhywun yn ei gyfarch, ac yntau am ennyd fel heb ddihuno o'i ddwys fyfyr, ac yna yn torri allan,—"Hy !" fel un heb sylweddoli yn iawn beth oedd yn bod. Yr oedd ei feddwl cryf wedi ei ieuo â chorff cryf; ond ar ei oreu y byddai'r corff cryf hwnnw yn gwasanaethu ar ruthr-gyrchoedd ei grebwyll i diriogaethau'r anweledig. Teithiodd lawer er gwasanaethu ei genedl, ymroes i fyfyrdod, pregethodd bregethau meithion, llafurfawr, yn fynych deirgwaith y dydd, gydag ynni ac ymroddiad a difrifwch diball, diesgeulus. Cysegrodd ei ddawn ddihafal i wasanaeth yr Efengyl. O ran dawn ac o ran ynni yr oedd ymhlith y rhai hynotaf. Yr oedd, ym marn y rhai cymhwysaf i farnu, yn ddieithriad, yn un o wŷr mwyaf