Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/202

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

welliant cymdeithasol. Ymroes i lafur ynglyn â'r cyfarfodydd ysgolion. Gweithiodd gyda dirwest, pregethodd ar burdeb, tarannodd yn erbyn drygau cymdeithas. Edrydd Mr. Evan Jones Caernarvon mai'r peth mwyaf ofnadwy a glywodd efe erioed mewn pregeth oedd disgrifiad John Jones o edliwiad merch i'r sawl a'i darostyngodd wrth gyfarfod ohoni âg ef mewn byd arall. Pregethodd lawer ar berthynas yr Efengyl â buchedd dyn, â'i arferion personol, teuluol a chymdeithasol. Heblaw fod swyn mawr yn ei ddawn, yr oedd naws iachus yn ei faterion. Nid difyrru oedd mewn golwg ganddo, ond argyhoeddi. Yn ei afael gref ar yr ymarferol, fe gadwai olwg ar gynysgaeth fydol iddo'i hun a'i deulu. E fu'n darllen a meddwl a siarad o bryd i bryd am flynyddoedd am ymfudo i'r America, oblegid manteision y wlad honno mewn casglu ynghyd gynysgaeth fydol, yr hyn oedd mewn golwg ganddo ar gyfer ei liaws plant. Wrth siarad â gwraig y lletyai gyda hi unwaith ynghylch cael fferm yn yr America, ebe hi, "Cymru ydyw eich fferm chwi, John Jones." Er ysbrydolrwydd ei feddwl, yr oedd ei afael yn o gref ar glawr daear. Rhoes ddwy flynedd o'i oes yn anterth ei boblogrwydd a'i ddylanwad fel pregethwr i arolygu chwarel y disgwyliasid iddi droi yn enillfawr. Siomi y disgwyliad hwnnw a wnawd ar y pryd, a chyfyngai yntau braidd yn fawr ar gyflogau y gweithwyr. Yn y cyfnod hwn fe ddirywiodd ei bregethu lawer. Y mae ei gofiannydd yn hytrach yn amddiffyn ei bregethu yn y cyfnod hwnnw yn wyneb barn gwlad am dano. Yr oedd y wlad, pa ddelw bynnag, yn unfarn ei llais am y dirywiad amlwg. Am bum mlynedd yr estynwyd ei weinidogaeth yn ol hynny. Barn bendant Robert Owen Tŷ draw, un o'i edmygwyr pennaf, am dano, ar ol cyfnod arolygiaeth y chwarel, ydoedd, na fu efe fyth wedyn. "yr un un." A thraethai ei farn ei hun mai dyna'r achos o'r tywyllwch ar ei feddwl ef yn ystod ei waeledd diweddaf. Rhaid peidio cymeryd y dystiolaeth hon mewn gwedd rhy eithafol. Nid hwyrach y cytunasai ei gofiannydd ef, hefyd, i raddau, gan y geilw efe'r cyfnod o flaen cyfnod arolygiaeth y chwarel yn "flynyddoedd cyflawnder ei nerth." Yng nghymeriad John Jones yr oedd haen ar haen, a dodai'r haen o wenithfaen caled oedd ynddo rym ym mhob cynneddf. Yn ei orbryder i sicrhau magwraeth deilwng i'w deulu lliosog, fe daflwyd y wenithfaen i fyny i'r wyneb, pan mai gwell fuasai fod ohoni yn aros yn ddwfn-guddiedig yng nghrombil daear, yn sylfaen yn unig i'w amrywiol ragoriaethau a'i ddoniau godidog. Eithr yn ei natur ef fe welwyd ryw gyfuniad ardderchog.