Fe orweddai'r natur gref a throm honno fel rhyw deml fawr ar glawr daear, â ffurf betryal iddi, yn dangos wyneb llawn a chy- mesur i bedwar cwrr byd, ac oddiar y gwaelod hwnnw yn ymgodi yn fawreddus, gyda'r llinellau yn araf dynhau tuag at eu gilydd, nes ymgyfarfod ohonynt mewn pinacl yn ymddyrchafu oddiarnodd, ac yn cyfeirio yn unionsyth i entrych awyr, gan ddal tywyniadau cyntaf glasiad dydd, a'u hadlewyrchu yn chwareuaeth o oleuni yn yr ystafell ddirgel oddifewn, sef y lle sanctaidd, ag y mae y Secina yn ol ei wahanlen. Ac yn y natur gref, amryfath, eneiniedig honno, megys mewn teml, fel gwas yr Arglwydd e fu'n gweini am oes gyfan mewn pethau sanctaidd, megys yr archoffeiriad gynt ar ddydd y cymod; ac megys yntau, nid heb waed yn y cawg, a chyda'r clychau ar ymylon ei wisgoedd yn tincian bywyd ynghlyw holl. lwythau Israel. (Am restr testynau John Jones, edrycher Llanllyfni, at y diwedd).
Ychydig o flaen y diwygiad, fe gafodd Gwen, merch i John Jones, Mrs. Davies Nerpwl yn awr, freuddwyd, pryd y gwelai hi ei hun yn sefyll yn nrws y tŷ, gyda'r capel ar y dde. Gwelai yr awyr yn ddugoch, a thonnau porfforaidd yn ymdaflu drosto. Teimlai arswyd yn ei meddiannu, megys wrth ddyfodiad y farn. Ar hynny, dyna ganu yn yr awyr, ac yn y man floedd soniarus yn ateb allan o'r capel. Ac felly am ennyd, cân a bloedd gorfoledd yn cydateb ei gilydd. A hi yn crynu dan ddylanwad yr amlygiadau rhyfedd, wele'r Arglwydd Iesu yn sefyll ar y mur isel o flaen y drws. Angylion a chwim ehedent o'i amgylch. Methu ganddi godi ei llygaid i edrych ar ei wynepryd. Hi a welai y gwefusau, ond atelid golwg ei lygaid oddiwrthi. Ar hynny, wele lew cryf yn sefyll wrth ei ymyl ef. Codai ei ddwy bawen, megys am larpio y Gwr. Yntau heb gymeryd arno'i weled, a barodd i'w rith ef ddiflannu âg amnaid ei law. Ar amrantiad, dyna gôr y wybr a chôr y capel yn cyd-daro mewn bloedd gorfoledd,-" Had y Wraig a ddrylliodd ben y sarff." Wele fam Gwen yn nrws y tŷ cyn i'r cwmwl goleu dderbyn yr Iesu, ac fel yr esgynai ef, gwelai Gwen ei wyneb yn llawn, a chyfryw olwg arno nas gellid ei thraethu. Ac meddai ei mam yr un pryd, "Dacw y Duw y gobeithiais ynddo." Pan oedd Henry Prichard, tad David Prichard, goruchwyliwr ym Methesda, yn dechreu'r cyfarfod am wyth y bore ar ddydd diolchgarwch yn Hydref, fe ddisgynnodd rhyw ddylanwad dieithr arno ar y weddi. Gwr syml, diniwed, ond duwiolfrydig y cyfrifid ef. Dan y dylanwad anarferol, fe