Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/213

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lliaws am y byd yn gyffredinol drwy hanes ei deithiau oddiar y llwyfan a thrwy'r wasg. Yn wr dymunol, nawsaidd a chrefyddol. Cyflwynwyd iddo'r radd o F.R.G.S. (Cofiant, gan y Parch. W. Williams, 1895.)

Yn 1890 y dechreuodd W. Griffith Jones bregethu. Derbyniodd alwad o Bonterwyd sir Aberteifi.

Bu Evan Owen farw Gorffennaf 5, 1891, yn 68 oed, wedi dechre pregethu oddeutu 1853, pryd yr adwaenid ef fel Evan Owen Seion, Clynnog. Brodor o Garn Fadryn, Lleyn. Yn Nhalsarn a Baladeulyn er 1857. Bu yn yr ysgol am dymor gydag Eben Fardd. Edmygydd mawr o'r bardd. Yn gymeradwy gan liaws fel pregethwr. Yn wr o ysbryd crefyddol, a naws y diwygiadau a brofodd yn aros ynddo. Yn rhagori yn enwedig yn ei weddiau cyhoeddus, pryd y teimlid ef yn wr o rym ysbrydol. Cadwodd ei le yn y chwarel fel pwyswr, ebe Mr. W. Williams, a'i law ar aradr y weini- dogaeth yr un pryd. A dywed ef ymhellach ddarfod iddo brofi ei hun yn ffyddlon fel cydweithiwr â'r gwr a alwyd yn fugail ar yr eglwys ym mlynyddoedd olaf ei oes ef. Gryn drafferth a gafodd efe i gychwyn pregethu, ond fe brofodd ei hunan yn wr anfonedig yng nghydwybodau llawer. Yn yr ystyr hwnnw y mae cymhwyster yng ngeiriau Hywel Cefni am dano,

Ac fe lŷn eco ei floedd
Yn arosawl i'r oesoedd.

Yn blentyn rhwng saith a dengmlwydd oed fe ddringodd lethrau y Garn Fadryn, ac mewn llecyn anghysbell ym Mwlch y ddwygarn, yng nghongl hen gorlan, fe dywalltodd ei galon gerbron Duw. Wedi myned yn ddyn, fe ddywedai ddarfod iddo droi allan o'i ffordd lawer gwaith, a myned i mewn i'r hen gorlan, ac na bu efe yno erioed heb golli dagrau. Yng nghystudd diweddaf Margaret Williams Glan- beuno, Bontnewydd, un o'r rhai cryfaf ei chynneddf o ferched John Jones, a hithau wedi gadael y cyfundeb y dygwyd hi i fyny ynddo, a myned o honi i eglwys Loegr, ni fynnai o'i bodd mo neb i weini arni mewn pethau ysbrydol namyn Evan Owen. (Goleuad, 1891, Gorff. 16, t. 7; 23, t. 5. Drysorfa, 1891, t. 308.)

Yn 1893 dewiswyd yn flaenoriaid, Owen O. Jones Frondirion a Hugh E. Jones Cefni. Daeth Owen O. Jones yma o Garmel yn 1889, lle yr oedd yn yr un swydd. Efe oedd arweinydd y gân yma cyn cael ei alw i'r flaenoriaeth.