Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/214

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hydref 29, 1893, y bu farw Owen Thomas Owen, yn 49 oed, yn flaenor er 1871. Yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd o'r blaenoriaid yn ei amser ef yn yr eglwys. Yn gyflym ei symudiadau, yn fywiog ei feddwl, ac yn wir weithgar. Yn adnabod dynion, ac yn meddu ar allu naturiol i arwain. Ar y blaen gyda symudiadau cyhoeddus, ac yn allu yn y gwahanol gylchoedd.

Yn 1894 y dechreuodd Morgan W. Griffith bregethu. Derbyniodd alwad gan eglwysi Seisnig y Bermo ac Arthog.

Yn 1895 y dechreuodd Owen J. Griffith bregethu, brawd i H. E. Griffith a M. W. Griffith.

Ebrill 19, 1896, y bu farw Owen Morton Jones, wedi dechre pregethu yn 1882, ac yn 36 oed. Cymeriad pur. Gwnaeth ddefnydd da o fanteision dysg. Pregethwr sylweddol. Gadawodd waith y chwarel i bregethu pan oedd yr enillion yn fawr. (Goleuad, 1895, Mai 8, t. 4.)

Yn 1898 y dechreuodd Morris Thomas bregethu, ac yn 1899, O. J. Griffith.

Yn 1899 yr adeiladwyd tŷ y gweinidog. Rhoir traul y tŷ ynghyda gwerth yr organ a rowd yn y capel yn 1901, fel yn £1,244.

Fe geisir crynhoi yma rai o'r pethau a ddywedir am Griffith Ellis Jones gan Mr. O. Ll. Owain. Yr oedd efe yn ŵyr i Sian Ellis Clynnog, a'i dad ef, sef Ellis Jones, ydoedd y maban y darfu i Siani unwaith pan ar ganol gorfoleddu ei ollwng o'i breichiau yn ddiarwybod iddi ei hun. Troes Ellis allan yn grefyddwr teilwng o'r bedydd tân hwnnw. Fe ymddengys fod crefydd yn y teulu hwn, megys yn etifeddol, gan fod tad Sian Ellis, Ellis Jones yntau hefyd, yn grefyddwr profiadol a thanbaid. Yn wr ieuanc, fe ymroes Griffith Ellis Jones gyda nifer o rai eraill i efrydu gramadeg a cherddoriaeth. Nid esgeulusodd lyfrau ychwaith. Gwr diniwed, diwyd a da. Athraw ysgol deheuig er yn ddeunaw oed. Gan faint ei awydd i'w gweled yn rhagori mewn gwybodaeth a daioni, fe wahoddai ei ddisgyblion ar brydiau i'w dŷ ar nosweithiau yr wythnos, er mwyn y cyfle o'u hyfforddi ymhellach. Bu am amser yn gofalu am ysgol i blant tlodion mewn tŷ ar ochr y Cilgwyn. Gyda'i ddosbarth Solffa y daeth efe yn fwyaf enwog, a bu pob copa walltog braidd ymhlith plant Talsarn ar un adeg dan ei addysg. Dilynydd ydoedd ef yn hyn i Joseph Owen, ysgolfeistr llofft y capel. Elai Griffith Ellis Jones gyda rhyw ddwsin o'r plant yma