RHOSTRYFAN (HOREB).[1]
CYN cyrraedd gorsaf y Dinas, ar y ffordd o Gaernarvon i Lanwnda, y troi'r i fyny at Rostryfan. Troir oddiar yr un ffordd at Frynrodyn ychydig ymhellach ymlaen, ac wedi myned beth ymhellach na Brynrodyn y troir i fyny ymhentref y Groeslon at Carmel a Cesarea. Yr oedd y ffyrdd hyn i'r mynydd yn lled anghynefin ychydig cyn cyfnod y capelau. Cododd y capelau hynaf ar y prif-ffyrdd.
Yr oedd er hynny bregethu achlysurol yn yr ardal er yn fore, fel y gwelwyd eisoes ynglyn â hanes Brynrodyn. Edrydd Robert Jones Rhoslan am dorf wedi dod ynghyd ar brynhawn Sul i wrando pregeth yn yr ardal hon. Yr oedd gan amaethwr gerllaw darw a arferai ruthro yn erchyll, fel yr ofnid myned yn agos ato. Trodd y gwr yr anifail hwn ar y gynulleidfa, a deuai ymlaen dan ruo tuag at y dorf. Ynghanol cynnwrf y bobl, pa fodd bynnag, wele'r tarw yn canfod buwch ennyd oddiwrtho, ac yn rhedeg ar ol honno. Gwel Robert Jones yn yr amgylchiad hwn gyflawniad o addewid yr Arglwydd i'w bobl, pan addawa wneuthur amod drostynt âg anifeiliaid y maes. Ac edrydd hefyd ddarfod i'r tarw hwnnw ymhen tro o amser ruthro ar ei berchen, gan ei gornio yn ddychrynllyd, fel mai o'r braidd y diangodd efe am ei einioes. Mynegid i awdwr Methodistiaeth Cymru gan y gwr ei hun, ddarfod iddo ef yn fachgen gael ei ddanfon gan ei dad i gyfarfod Robert Jones Rhoslan ar ryw Sul, i'w arwain ef i'r capel, y tro cyntaf y bu efe ynddo, a'r tro olaf hefyd, fel y tybid. Wrth fyned heibio ryw fan neilltuol, ebe'r hen wr: "Yn y fan yma yn rhywle y mae'r garreg y byddem ni yn sefyll arni i bregethu er's llawer dydd. Yr oeddwn i yma ar ryw dro, pryd yr oedd yma ryw ddyn a arferai wneud. gograu, o'r enw Erasmws, wedi myned i ben y garreg i'm rhwystro i; ond fe ddaeth rhyw ddyn arall o'r enw William Pugh Penisa'r rhos, ac a ddygodd het Erasmws oddiar ei ben, ac a'i taflodd ymaith dros ben y gynulleidfa. Bu raid i'r gogrwr fyned i ymofyn ei het, a chefais innau fyned i ben y garreg." Adroddir ymhellach ddarfod i Griffith Llwyd ddwyn baich o wair i'r stabl ar nos Sadwrn ar gyfer ceffyl Robert Jones. Hysbyswyd Robert Jones gan dad y llanc a'i hebryngai, mai mab oedd y Griffith Llwyd hwn i'r gwr a
- ↑ Ysgrif John Williams Talybont. Ysgrif Mr. Richard Jones Hughes, yn dwyn yr hanes i lawr hyd 1891. Nodiadau y Parch. T. Gwynedd Roberts. Cofant Edward Williams, gan W. Williams Birmingham (Glyndyfrdwy), 1882