Fethodistaidd yn yr ardal ar ddechreu'r ganrif. Ar ol y gwasanaeth fore Sul yn y llan, elai'r ieuenctid a gyrchai yno i ofera. Un o'u cyrchfannau, ebe Mr. Gwynedd Roberts, oedd Tanygaerwen, sef ychydig i'r dwyrain o'r man y saif y capel. Deuid yno o wahanol fannau, ac yn eu plith byddai rhai amgen nag ieuanc. Adroddid chwedlau'r tylwyth teg ac ystorïau masw, a cheid yno'r ddawns a gwahanol fath ar chware. Cyrchfan arall oedd wrth Gamfa'r ystol.
Oddeutu 1804 y codwyd ysgol Sul gyntaf yn yr ardal, mewn hen dŷ diaddurn, a elwid y Muriau, ar gyfer y Felin Frâg, ar dir y Wernlas wen. Nid oes ond prin olion o'r tŷ yn aros. Mari'r Muriau, fel y dengys ei henw, oedd y trigiannydd, a chyda hi ei hen fam oedrannus. Griffith Jones Cae hen oedd yr arolygwr, a chynorthwyid ef gan William Williams Bodaden a William Edward Cae'mryson. Cynelid rhai dosbarthiadau yn y Felin Frâg a'r Tŷ uchaf, dau fwthyn bychan o fewn ergyd carreg i'r Muriau, ond mewn cyfeiriadau gwahanol. Deuai'r dosbarthiadau ynghyd i'w holi ac i adrodd y Deg Gorchymyn. Aeth mam Mari Jones y Muriau yn rhy wael o'r diwedd i allu goddef swn yr ysgol, a gorfu ei rhoi i fyny ymhen dwy flynedd o amser. Edward William ydoedd un o'r rhai a ddysgodd ddarllen yn ystod yr amser hwnnw. Wele ei ddisgrifiad ef o'r arolygwr: "Cofiwn am ei agwedd ddifrifol yn holwyddori yn niwedd yr ysgol, gan son am yr anuwiol yn y farn, fel y bydd ei wyneb yn casglu parddu, a'i liniau yn curo ynghyd. Safai ar ganol y llawr pridd, a thua deg ar hugain o blant o'i amgylch, yn gwrando arno ac yn ei ateb yn ol eu gallu, heb demtasiwn i gellwair ar neb. Yr hyn oedd bwysig ar ei feddwl oedd cael y colledig at y Ceidwad. Mynych y rhoddai'r geiriau hynny allan i'w canu, Dyma Geidwad i'r colledig.' Wedi rhoi'r ysgol i fyny, elai'r plant i chware megys cynt ar y Suliau."
Ail agorwyd yr ysgol ymhen ysbaid yn Nhy'n y weirglodd, tŷ ymhen uchaf tir Bodaden, a breswylid gan Griffith Jones a'i wraig Elin Prys. Yn lled fuan, fel y dywedir, symudwyd oddiyno i Caerodyn, lle yn uwch i fyny, ac a breswylid gan John a Hannah Jones. Symudwyd o Gaerodyn i Benlan uchaf, ynghwrr isaf yr ardal, sef tŷ Griffith Prichard, a ddaeth yma o dŷ capel Brynrodyn ychydig cyn hynny. Aroswyd yma hyd 1816, sef ystod tair blynedd. Yma yr oedd yr ysgol pan fu farw Charles, a chofiai Edward Williams am y canu mawr yn yr ysgol ar farwnad Dafydd Cadwaladr i