Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CAPEL UCHAF.[1]

YR eglwys wladol a gafodd yr ardal hon yn llwyr iddi ei hun, heb. ymyriad unrhyw blaid grefyddol, hyd nes yr ymddanghosodd y Methodistiaid yn y lle, a chydrhwng yr eglwys a'r Methodistiaid y meddiannir hi fyth. Dechreuwyd pregethu yn ardal Llanaelhaiarn, bedair milltir o bentref Clynnog, yn gynnar yn y bedwaredd ganrif arbymtheg.

Yn yr ardal hon ynghyda Llanllyfni y dechreuodd Methodistiaeth wreiddio'n amlwg yn gyntaf oll o holl ardaloedd Arfon. Yr oedd ymweliad cyntaf Howell Harris â Sir Gaernarfon i bob golwg yn gyfyngedig i'r pen arall i'r sir. Mae'r traddodiad a fu yn ardal Waenfawr ddarfod i Howell Harris bregethu yno ar ei ymweliad cyntaf â'r sir yn fwy credadwy ond deall Arfon am Gaernarfon. Mae dyddlyfr Howell Harris yn rhoi hanes ei ail ymweliad â'r sir yn 1747, yngholl. Ardal dra neilltuedig yr ymddengys y rhan honno o'r wlad lle codwyd y capel cyntaf yn Arfon ymhlith y Methodistiaid. Eithr y mae'r Efengyl, fel pob gwareiddiad arall, yn tramwy y prif-ffyrdd lle byddant wedi eu gwneud, cystal a'u gwneud lle na byddant. Ac y mae prif-ffordd yn myned heibio'r Capel Uchaf o bentref Clynnog i bentref Penmorfa. Yn ystod blynyddoedd a ddilynai ymweliad cyntaf Howel Harris âg ardaloedd Lleyn, fe godwyd amryw gynghorwyr, fel y gelwid hwy: John Morgan yr ysgolfeistr, Morgan Griffith, Hugh Thomas, John Griffith Ellis ac eraill, a byddai y rhai'n yn achlysurol yn anturio cyn belled ag Arfon; ac yn rhyw fodd drwy weinidogaeth rhai ohonynt hwy, y mae pob lle i gasglu, y disgynnodd hedyn crefydd efengylaidd gyntaf i'r ardal, neu o leiaf hedyn Methodistiaeth.

Eithr fe freintiwyd ardal Clynnog mewn ffordd arall. Yr oedd Richard Nanney, person y plwyf, yn wr o ysbryd efengylaidd. Daeth yno yn 1723, a bu farw yn 1768 yn 80 mlwydd oed. Nid yw'n hysbys pa bryd y meddiannwyd ef gan yr ysbryd efengylaidd, eithr fe arferid a thybio yn yr ardal mai yn ol bod yn gwrando ar y Methodistiaid, prun ai yn yr ardal hon ei hunan neu ynte yn rhywle

arall nid yw'n hysbys. Fe ddywedir, pa fodd bynnag, ddarfod iddo

  1. Ysgrif y Parch. Howell Roberts; dwy ysgrif John Owen yr Henbant, y naill yn adrodd am rai pethau hynod a gofid ganddo ynglyn á chrefydd, a'r llall yn rhoi hanes cychwyn yr ysgol Sul; Adgofion y Parch. John Williams, Caergybi; ymddiddanion âg amryw.