a hanner modfedd o led, a niciau ar yr ymylon, yn dangos pa mor aml yr eid allan. Ticed ar gyfer pob un, gan hynny, debygir.
Oddeutu 1836-7, daeth Griffith Evans i Hafoty Wernlas. Yr oedd yn flaenor ym Moriah, Caernarvon, cyn hynny, a galwyd ef i'r swydd yma.
Rhy fychan ydoedd y capel cyntaf, hyd yn oed gyda'r ychwanegiad o lofft, o leiaf ar ol y diwygiad. Amserir yr ail gapel yn 1837-8. Yn ol y weithred, prynwyd darn o'r comin am £7 yn 1838, p'run a oedd y capel wedi dechre cael ei godi cyn hynny a'i peidio. Gwnawd yr hen gapel yn dŷ capel. Codwyd mur o'i fewn, a gwasanaethai un gyfran ohono fel cegin, ystabl a llofft ystabl. Gwnaed lle i gadw y cerbydau. Mesur y capel oddifewn oedd 16 llath, neu ynte 14 llath, wrth 12. Yn wynebu'r gogledd-ddwyrain, a dau ddrws yn y wyneb, gyda'r pulpud yn y canol rhyngddynt. Edrychid arno yn gapel mawr. Eisteddai 300 ynddo. Ebe Griffith Jones, Cae hen, "Ni geisiwn i John Elias yma i'w agor, gad i ni weld i lond o am unwaith." Gorffennwyd y capel; daeth John Elias i'r agoriad; a chafwyd ei lond o bobl. Ar ganol cyfarchiad, ebe John Elias, "Nac esgyned neb byth i'r areithfa hon ond gwir anfonedigion Duw!
Y Rhos a'r Bontnewydd yn daith flwyddyn agoriad y capel, sef 1838.
Yn 1839 y daeth Robert Owen yma o Nefyn. Yr ydoedd wedi bod yn gweithio yn ffactri y Tryfan pan oddeutu 20 oed. Yr ydoedd yn awr yn 40 oed.
Ychwanegwyd at yr eglwys yn ystod diwygiad 1839-40 rai dynion goleubwyll, ag y bu eu gwasanaeth o werth i'r eglwys. Oddeutu'r adeg yma, wrth ddarllen yn yr Actau am rifedi'r dis- gyblion fel ugain a chant, ebe Griffith Evans, "Tua'r un nifer ag ydym ni fel eglwys yn bresennol."
Cofrestru'r capel i weinyddu priodasau yn 1846, neu ddechre 1847. John ac Elizabeth Roberts Glanrafon oedd y ddeuddyn a briodwyd gyntaf. Robert Owen yn gweinyddu. Oddeutu'r un adeg y gwnawd tir y capel yn fynwent.
Yn 1846 ymfudodd William Williams Pantcoch i'r America. Yr oedd wedi symud oddiyma i Ffestiniog ers ychydig flynyddoedd cyn hynny. Gwnawd ef a John Williams Cae'mryson, Fachgoch