Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lafurio'n hir, a hynny ar ol ei ddeffro gan yr ysbryd newydd, cyn gweled ohono nemor ddim llwyddiant ar ei weinidogaeth. Nid hwyrach mai araf y bu yntau ei hunan yn dod i'r goleu llawn. Yn ei flynyddoedd olaf, pa ddelw bynnag, y coronwyd ei lafur â bendith amlwg. Dechreuwyd llanw eglwys fawr Clynnog, a fyddai agos yn wâg cyn hynny, â chynulleidfa orfoleddus, ac aeth y sôn am y gwasanaeth drwy'r wlad oddiamgylch. Mae'r hanes hwn ar ei wyneb yn ei wneud yn debygol mai ar ol i Fethodistiaeth ddechre gwreiddio yn y wlad y digwyddodd y cyffro hwn yng ngwasanaeth yr eglwys, canys rywbryd at ddiwedd oes y person y digwyddodd y cyfnewidiad amlwg ynglyn ag ef, tra'r oedd pregethu achlysurol yn y gymdogaeth ers oddeutu ugain mlynedd cyn hynny, ac eglwys wedi cychwyn ers lliaws o flynyddoedd bellach yn yr ardal. Pa ddelw bynnag, nid oes amheuaeth na fu gweinidogaeth Richard. Nanney yn gyfnerthiad mawr i grefydd ysbrydol yn y wlad, ac i Fethodistiaeth yn neilltuol.

Ar y cyntaf ni dderbynid pregethu i dai. Ar yr heol y byddai'r gwasanaeth. Eithr e fyddai ryw ddylanwad rhyfedd a dieithrol ar adegau yn cydfyned â'r genadwri ar rai o'r gwrandawyr, y fath fel y tybid dim llai nad gwallgofi y byddent, ac elid yn eithaf digellwair i chwilio am raffau i'w rhwymo. Diau fod ein tramwyfa fel cyfundeb y pryd hwnnw,fel y digwyddodd hefyd liaws o weithiau ar ol hynny yn ein hanes, ar draws rhyw gylchwy cyfrin o ser y nefoedd. A'r un a'r unrhyw rym ysbrydol ag a ddeffroai iasau argyhoeddiad yn rhai a ddeffroai gynddaredd yn y lleill. Pan oedd Lewis Evan Llanllugan, un o'r cynghorwyr boreuaf, yn sefyll i fyny i bregethu yma, fe ddaeth boneddwr o'r ardal ato, a rhoes ddyrnod iddo a choes ei chwip, nes llifo o'i waed. Rhwystrwyd ail ddyrnod drwy i Robert Prys Felin Gaseg sefyll i fyny dros y pregethwr. Nid cynt y cyrhaeddodd y boneddwr ei gartref nad dyma arch i'w was i fyned i ymholi am helynt y pregethwr, rhyw arwydd, debygid, o aflonyddwch meddwl.

Y cyntaf i roi achles i'r arch o fewn ei dŷ oedd Hugh Griffith, neu Hugh Griffith Hughes. Teiliwr o ran ei grefft, ond yn dda arno. Preswyliai yn y Foel, rhyw ddwy filldir o'r pentref. Trowyd Hugh Griffith o'i dŷ o achos yr Arch. Ymhen ysbaid, dyma Hugh Evans Berthddu yn adeiladu tŷ ar ei dir ei hunan, ac yn ei osod i Dafydd Prisiart Dafydd, un o'r crefyddwyr. Nid Methodist