chwarelwr wedi hynny, a chwarelwr medrus. Gwnawd ef yn ysgrifennydd yr eglwys ar ei union, debygid, y cyntaf un i gadw'r cyfrifon yn ol trefn reolaidd. Yn aiddgar dros ddirwest a llenor— iaeth. Yn ddarllenwr dyfal mewn gwahanol ganghennau. Ni ragorai mewn dawn siarad. Syml a llawn teimlad mewn gweddi. Darllennai y Beibl beunydd, ac ymhoffai yn y Geiriadur, Gurnall, a'r Dr. Owen ar Berson Crist. Rhy barod i gymeryd tramgwydd ydoedd. Tarawyd ef yn y gloddfa gan ddarn o graig fel y bu farw.
Lle Ellis wr dewisol—mae'n wagle
Mewn eglwys ac ysgol;
Ond mae 'i le yn y Ne' 'n ol,
Lle gwna 'i nyth am byth bythol.—Eben Fardd.
Bu'n addurn beunyddiol—i'w enw
Fel blaenor defnyddiol.
Llariaidd iawn a llwyr ddenol,
Dewr yn ei waith, diwyro'n ol.—Elis Wyn o Wyrfai.
Awst, 1857, y daeth y Rhos yn daith gyda Charmel. Ebrill 1859 y gwnawd W. Williams yn flaenor, yn ol hynny y Parch. W. Williams Glyndyfrdwy.
Ofnid braidd yr elai cawod 1859 heibio heb i Rostryfan dderbyn cymaint a chwrr ohoni. Mynych y rhoid allan y pennill, O tyred, Arglwydd mawr, Dyhidla o'r Nef i lawr Gawodydd pur." Cynhaliwyd cyfarfod gweddi y nos Sadwrn olaf yn Awst mewn hen furddyn gan chwech o wŷr ieuainc, a theimlwyd dylanwadau grymus. Yn y cyfarfod gweddi y Sul fe dorrodd yn orfoledd. Ar ddydd diolchgarwch 1860, ebe John Williams, y profwyd peth hynod. Rhoddi allan yr oeddys y pennill hwnnw, a briodolwyd gan rai i Morgan Llwyd,
'Dyw hi eto ond dechre gwawrio,
Cwyd yr haul yn uwch i'r lan.
Teyrnas Satan aiff yn chwilfriw,
Iesu'n Frenin yn mhob man.
Dyblid a threblid gan enyniad y tân, nes y torrwyd allan yn waedd lesmeiriol. Cyffelybid y dylanwad gan rai i "swn o'r nef."
Gellir yma gymharu rhif yr eglwys ar wahanol gyfnodau. Yn 1821—2, 38; yn 1841, 131; yn 1854, 162; yn 1858, 182; yn 1860, 263; yn 1862, 252; yn 1865, 250.
Yn 1860 dewiswyd yn flaenoriaid: W. Hughes Siop, Sampson Roberts Bodaden, William E. Thomas Blaenywaen, Owen Griffith ysgolfeistr.