CARMEL.[1]
CYN cychwyn ysgol Sul yma, elai amryw i'r ysgolion ym Mryn- rodyn, yn Rhostryfan, ac yn Nhalsarn. Nid oedd corff y boblogaeth y pryd hwnnw yn myned i unrhyw le o addoliad; ac yr oedd. gwahanol fabol-gampau mewn bri yn y gymdogaeth, ac yn cael ymroi iddynt yn enwedig ar y Suliau. Ymgynghorodd pedwar of wyr â'u gilydd, nid amgen, Robert Jones Bryn llety, Eleazer Owen Tŷ hwnt-i'r-bwlch, Thomas Roberts teiliwr, John Griffith Ty'ny- weirglodd, ynghylch y priodoldeb o gael ysgol i'r lle. Awd â'r peth i gyfarfod athrawon ym Mrynrodyn. Penderfynwyd cychwyn ysgol ar y mynydd, os ceid lle i'w chynnal. Ni buwyd yn hir heb le, sef ydoedd hwnnw, ysgubor y Caehaidd mawr. Yr oedd hynny oddeutu 1812.
Rhaid mai ychydig oedd nifer y teuluoedd a arferai fyned i ysgolion mewn lleoedd eraill, gan fod yn angenrheidiol myned allan i chwilio am ddeiliaid i'r ysgol newydd. A thrwy fod yn daer a di-ildio fe lwyddwyd. Nid ychydig drafferth chwaith a gafwyd i gadw'r plant yn yr ysgol, ar ol unwaith eu hennill, gan y duedd oedd ynddynt i ymollwng drachefn gyda'u chwareuon. Rhaid oedd defnyddio'r wialen er mwyn cael trefn. Elid yn yr haf ar boncan gerllaw y tŷ. Fe ddywedir yn y Canmlwyddiant mai rhyw saith oedd y nifer ar y cychwyn, os nad hynny oedd y nifer ar adeg cychwyn yn rhywle arall, ar symudiad yr ysgol o'r naill le i'r llall. Bu gradd o lwyddiant ar yr ysgol yma am dymor, ond fe ddilynwyd hynny drachefn gan wywdra, a rhoddwyd hi i fyny.
Ni wyddis pa hyd y buwyd heb ysgol. Eithr fe ail-gychwynnwyd yn y Brynllety. Buwyd yn llwyddiannus yma gyda dysgu darllen. Cynghorai a rhybuddiai Robert Jones ar ddiwedd yr ysgol. I lawr yr aeth yr ysgol hon drachefn. Yr oedd Rowland. Owen yn gydnabyddus â'r hanes, gan ei fod wedi ei drosglwyddo i lawr iddo gan ei dad, a'r naill a'r llall ohonynt wedi bod yn cadw cofnodion o'r hanes; a thystiolaethir ganddo ef ddarfod i amryw a droes allan yn ddynion da ddilyn yr ysgol yn Caehaidd ac yma.
- ↑ Ysgrif ar yr Ysgol Sul, yn dwyn yr hanes i lawr i 1881, gan Rowland Owen Brynllifon. Ysgrifau gan Mri. H. Menander Jones (yn dwyn yr hanes i lawr i 1885), W. G. Roberts, Ephraim R. Jones. Cyfrif yr ail-adeiladu yn 1854, gan Henry Roberts. Nodiadau gan y Parch. H. M. Pugh.