Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/245

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llennid, pryd na wneid mo hynny o'r blaen, namyn darllen yn unig.

Eithr fe gododd awydd ar y Methodistiaid yn yr ysgol am gael ysgoldy iddynt eu hunain. Pan oedd Eleazer Owen ar un diwmod gwlybyrog yn efail Cloddfa'r lôn, gofynnodd Richard Thomas y gof iddo, pa fodd yr oeddynt yn leicio yn yr ysgol yn Pisgah? "Symol," ebe Eleazer Owen,—"rhyw symol yr ydym yn leicio." Yr oedd arnynt hwy,—elai Eleazer ymlaen, gan ddirwyn allan ei ddameg yn eithaf arafaidd,—gryn awydd am ysgoldy iddynt eu hunain fel Methodistiaid. "Paham na chyfodwch un ynte?" gofynnai Richard Thomas, gyda phwyslais gofaint. Atebodd Eleazer Owen eu bod hwy, y Methodistiaid, wrth eu cymeryd arnynt eu hunain, yn rhy weiniaid i hynny. "Wel," ebe Richard Thomas, "mi rof i sofran at ei chodi, os leiciwch i," a gwnaeth ysgwydd eithaf ddihidio, gyda Richard Thomas yn llygadrythu arno. Yna fe droes y gof at bob un oedd yn ei efail,—ac wrth mai diwrnod gwlybyrog ydoedd, yr oedd yno gryn nifer,—a gofynodd i bob un ohonynt am ei rodd, a chasglwyd saith bunt o addewidion at yr ysgoldy newydd y dwthwn hwnnw, yn efail y gof.

Daeth y peth hwn i glustiau John Jones Talsarn, ac wedi cael caniatad y Cyfarfod Misol, efe a gytunodd â'r brodyr hyn i ddyfod i fyny ar ryw brynhawn Sadwrn i ymorol am le i godi ysgoldy. Daeth John Jones i fyny, a Robert Griffith Tŷ capel Talsarn gydag ef. Yr oedd Richard Thomas y gof yn eu cyfarfod, a phawb arall a deimlai sel yn yr achos. Gofynnai John Jones, ymha le yr oedd y capel i fod, pryd yr atebodd Eleazer Owen mai efe oedd i ddweyd hynny. "Wel, os felly," ebe yntau, "yn y fan hon y bydd y capel," dan daro ei ffon yn y llawr. Ac yn y fan y tarawyd y ffon, yno y cyfodwyd y capel. Ac yn y flwyddyn 1826 y bu hynny.

Y man y tarawodd John Jones ei ffon i lawr, gyda'r mynegiad mai yno y byddai'r capel, sydd yn ymyl y fan y saif Bryngorwel arno yn awr. Y mae Mr. Ephraim Jones wedi gweled y tufewn i'r hen gapel drwy lygaid rhywun neu gilydd. Adeilad bychan, gyda dau o ddrysau culion yn arwain i mewn, a'r wyneb tua'r gogledd. Dwy ffenestr ar y wyneb, dwy bob ochr, a dwy ar y talcen pellaf, ac ar wydr un o'r rheiny y byddai'r plant weith-