iau yn gwastatu eu trwynau, ac yn edrych i mewn. Y pulpud rhwng y ddau ddrws, fel arferol, a dwy o seti dyfnion o bobtu iddo, a grisiau yn arwain i fyny iddynt. Ar y chwith eisteddai Eliseus a Mary Roberts Brynllety a'r teulu; ar y dde, John Williams a Catherine Griffith Tŷ capel. Trwy sêt y Tŷ capel y byddai'r pregethwr yn esgyn i'r pulpud. Y sêt fawr yn betryal, ac yn helaeth, gyda rhai yn eistedd ynddi heblaw y blaenoriaid, canys nid oedd yr hen bobl mor doriaidd ag ydym ni yn hynny o beth. Seti ar hyd y ddwy ochr, a llawr coed iddynt. Ar y pared, ar dalcen pellaf y capel, yr oedd bachau wedi eu gosod, ac ar y rhai'n y dodid yr hetiau, y rhan fwyaf yn hetiau silc perthynol i'r ddau ryw. Gwasanaethai'r cyffelyb ar Dafydd Rolant mewn rhai capeli wrth sôn am bomb shells y gwr drwg, pryd y dywedai eu bod yn dod "fel yr hetiau yna." Dwy seren yn grogedig o'r nenfwd, dwy ar y pulpud, ac un yn y sêt fawr, a'r canwyllau gwêr ynddynt. Llawr pridd oedd ar ganol y capel, oddeutu pedair llath o led. Carmel ydyw ei enw, wedi ei roddi iddo, yn ddiau, gan John Jones.
Chwefror 24, 1827, yr agorwyd y capel yn ffurfiol. Nos. Sadwrn fe bregethodd David Jones Môn ar Actau xvi. 14, "A rhyw wraig â'i henw Lydia." Bore Sul fe ddechreuodd William Jones Talsarn y gwasanaeth, a phregethwyd gan John Huxley oddiar Actau x. 34, "Yr wyf yn deall mewn gwirionedd nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb"; a David Jones ar Salm xxi. 4, 'Gofynnodd oes gennyt, a rhoddaist iddo, ie hir oes, byth ac yn dragywydd." Yn y prynhawn John Jones oddiar II Cronicl ii. 4, "Wele fi yn adeiladu tŷ i enw yr Arglwydd fy Nuw;" a David Jones ar Salm xc. 17, "A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni." Nid oes hysbysrwydd am foddion yr hwyr. Y dorf a ddaeth ynghyd yn fwy na gynwysai'r capel.
Y ddau William Owen oedd y ddau flaenor, y naill o'r Brynbugeiliaid a'r llall o'r Tŷ newydd, Cim, ac a adnabyddid wedi hynny fel o Benbrynmawr, Penygroes. Yr oedd yma yn y blynyddoedd cyntaf hynny rai a dybid eu bod yn golofnau, a safai ef o'r Brynbugeiliaid allan yn amlwg o ran ei ddylanwad yn eu plith. Fe gadwai ddisgyblaeth lem yn yr ysgol, fel na feiddiai neb ddod i mewn tra fyddid yn darllen y bennod ar y dechre, neu os deuai yr anystyriol i mewn fe'i ceryddid ef ar goedd, a hynny yn y cyfryw fodd fel mai nid mynych y byddai raid chwanegu'r ym-