eu pennau gyda'i gansen, mewn modd chwimwth ac âg effaith syfrdan. Prun oruchwyliaeth oedd yr anhawddaf ei dwyn, wys, ai eiddo William Owen Brynbugeiliaid, ai eiddo Frederic Fawr emprwr? Crynai'r plant, druain, fel y gellir yn hawdd credu, yngwydd William Owen, yn llawn mwy yn ddiau nag y crynai segurwyr pen yr heol yngwydd y brenin. Yr oedd William Owen yn frawd i Griffith Davies y cyfrifydd. Manylder llym, nid hwyrach, oedd priodoledd y ddau.
Yn 1857-8 yr ymadawodd Henry Roberts, neu Henry Trevor Roberts, brawd Trevor Roberts, i Ffestiniog, wedi bod yn swyddog am o dair i bedair blynedd. Dewiswyd ef yn 21 oed. Bu'n ysgrifennydd yr eglwys am dymor. Gwylaidd, gochelgar, gweithgar, duwiolfrydig. Miss Roberts y genhades sy'n ferch iddo.
Yn 1858 ymgysylltwyd yn daith â Rhostryfan.
Fe gynhaliwyd Cyfarfod Misol yng Ngharmel, Mehefin 7, 8, 1858. Mewn cofnod ysgrifenedig, Ellis James yn ysgrifennydd, fe ddywedir ddarfod ymddiddan â'r diaconiaid yn y lle yn ol y drefn arferol, ac y cafwyd popeth yn ddymunol-profiadau da ynghydag undeb a brawdgarwch. Dim anymunol yn eu plith. Er nad oedd llawer yn ymuno o'r newydd â'r eglwys, eto yr oedd yno lawer o arwyddion amlwg fod nifer o'r gwrandawyr yn teimlo yn ddwys dan weinidogaeth yr Efengyl.
Mae Mr. W. Griffith Roberts yn rhoi peth o hanes diwygiad 1859. Dywed ef fod arwyddion yma cyn y flwyddyn hon fod rhywbeth pwysig ar ddigwydd, ac y cafwyd rhai cyfarfodydd y pryd hynny na anghofiwyd mohonynt. Torrodd y diwygiad allan mewn cyfarfod gweddi a gynhaliwyd ar brynhawn Sadwrn ar gae Tyddyn mawr, ger Penfforddelen yn awr. Yr oedd hwn yn un o'r cyfarfodydd gweddi cyffredinol a gynelid ar y pryd, a phenodwyd un o bob eglwys yn y plwyf i gymeryd rhan ynddo. Yng Nghar- mel be benodwyd Thomas Williams Penfforddelen. Daeth miloedd ynghyd. Pan oedd cennad Bwlan yn gweddio, dyma dorri allan yn orfoledd mawr, fel y tybid fod pawb braidd yn gweiddi. Wedi dod adref, fe gynhaliwyd cyfarfod gweddi gan bobl ieuainc Carmel, a thorrodd yn orfoledd yno. Gwr caled oedd Sion Ifan Pen Carmel, â'i fesur ar grefyddwyr yn wastad. Yr oedd yn galed ei farn am y diwygiad. Dywedir ei fod yn anafu ei gorff ei hun wrth geisio dal heb blygu dan y dylanwadau. Un noswaith elai o'r cyfarfod