fod canu fe'i cymerid ef yn ysgafn. Yn fuan wedyn daeth y Sol- ffa i arferiad yma. Dechreuwyd cynnal dosbarthiadau gyda llyfrau Ieuan Gwyllt ac Eleazar Roberts. Aeth pump oddiyma yn llwydd- iannus drwy'r arholiad gan Ieuan Gwyllt am y tystysgrif cyntaf. Griffith Roberts Penybryn, heb fedru dechreu'r gân ei hun, a fyddai wrth ochr Menander yn ei gynorthwyo, yr hyn a allai ei wneud yn effeithiol. Nid oedd William Roberts, brawd Griffith Roberts, yn proffesu, ond efe a ddechreuai pan na byddai'r un o'r ddau eraill yno, yn yr hyn orchwyl y rhagorai efe hyd yn oed ar ei frawd. Bu Menander yn y swydd am 18 mlynedd.
Sefydlwyd y Gobeithlu yma yn 1865, gan John G. Jones Tyddyn isaf, David Owen Brynbugeiliaid, a Daniel Thomas Hafod boeth. Bu Griffith Parry Blaen fferam yn llywydd arno yn gynnar ar ei oes.
Yn 1867 y diogelwyd yr eiddo, sef y capel a'r tŷ a'r tir ynglyn â hwy, trwy bryniad gan y llywodraeth, am y swm o £11 11s. Y tir, gan gynnwys safle'r capel a'r tŷ, yn ddwy erw a chwe rhan o ddeugain o erw; a'r tir ynglyn a'r tŷ yn 242 llathen betryal yn ychwaneg.
Dewiswyd John Griffith Jones Tyddyn isaf, Glynafon wedi hynny, yn flaenor.
Yng Nghyfarfod Misol Llanfairfechan, Chwefror 3, 1868, fe geir cofnod i'r perwyl ddarfod annog y brodyr yng Ngharmel i adgyweirio eu capel, ar eu cyflwyniad hwy o'r mater i ystyriaeth, mae'n ddiau. Fe wnawd yr adgyweiriad yr un flwyddyn. Meinciau hyd yn hyn oedd ynghanol y llawr. Dodwyd seti yn eu lle. Disgwylid ar y pryd y byddai hynny o gyfnewidiad yn ddigon i'r gynulleidfa. Yn wahanol i hynny y profwyd. Cyflwynwyd yr anhawster i sylw y Cyfarfod Misol, a ffrwyth eu hystyriaeth hwy ydoedd mai gwell fyddai cael capel newydd.
Mehefin 2, 1868, y bu farw Trefor Roberts, yn 66 oed, ac wedi bod yn flaenor er 1846. Canolig o ran maint, ebe Mr. Ephraim Jones, gydag un ysgwydd yn uwch na'r llall. Gwr defosiynol a duwiol. Un o'r rhai duwiolaf, ebe'r un gwr am dano, a'i dduwioldeb yn ddylanwad byw o'i gwmpas. Heb ddawn siarad neilltuol, yn fawr ei barch gan yr eglwys i gyd, am yr ystyrrid ef yn wr Duw. Bu'n arolygwr yr ysgol ar ol John Robinson am rai blynyddoedd.