Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/254

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fewn eu pabell, gan ruthr y cawodydd o wynt. Penderfynwyd ar yr achlysur hwnnw cael ysgoldy cyfleus o hynny allan. Adeiladwyd hi oddeutu 1878. Erbyn Cyfarfod Misol 1880 yr oedd y dieithriaid mewn porfa lonydd gerllaw y man y buont yn aredig.

Yn 1878 y sefydlwyd y Gymdeithas Lenyddol a Diwinyddol.

Yn 1880 y peidiodd Carmel â bod yn daith â Cesarea, gan fyned bellach arni ei hun. Mai 2, 1880, oedd y Sul cyntaf i Garmel fod arno'i hunan yn yr ystyr hwnnw.

Yn 1880 y dewiswyd yn flaenoriaid, H. Menander Jones a Richard Griffith Jones Tyddyn isaf, Tŷ fry wedi hynny.

Mehefin 29, 1881, y dechreuodd Griffith S. Parry bregethu.

Tachwedd 25 y bu farw Evan Jones Tŷ newydd, yn 60 oed, ac yn flaenor er 1864. Ganwyd ef yn Brynifan, rhwng Carmel a'r Groeslon, yn 1821. Fe symudodd y teulu yma ar waith y tad, John Evans, yn adeiladu Pen Carmel. Codwyd ef yn ysgrifennydd. yr eglwys tuag 1859. Athraw llafurus. Ymdrechodd i geisio diwyllio'i feddwl fel llenor, ac enillodd liaws o wobrau mewn cyfarfodydd llenyddol. Yn ddyn cysegredig. Bu farw drwy gyfarfod â damwain yn y chwarel, ac yn wyneb hynny y mae rhai pethau yn ei hanes braidd yn nodedig. Gair a glywid ganddo yn wastad ar weddi ydoedd, "Bydd barod, Israel, i gyfarfod â'th Dduw." Ychydig ddiwrnodau cyn y diwedd, fe adroddodd yr adnod honno mewn cyfeiriad ato'i hun, "Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orffenais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydd." Yr oeddid yn cynnal cyfarfod gweddi yn y chwarel y diwrnod o flaen yr olaf iddo ef, ac efe ei hun yn arwain, a'i bennill diweddaf ydoedd, "Cofia, f'enaid, cyn it' dreulio, D'oriau gwerthfawr yn y byd."

Dirybudd, diarwybod—y'i galwyd
I'r dirgelaf wyddfod :
A oedd o'n sicr—oedd o'n barod?
Ei gywir fyw sy'n gwirio'i fod.—(Alafon).

Gorffennaf 5, 1882, y bu farw Robert Griffith, yn 81 oed, ac wedi bod yn flaenor er 1854. Pan alwyd ef i'r swydd yn un o dri, John Jones Talsarn oedd yma yn cymeryd llais yr eglwys. Wedi ei ddewis, fe aeth Robert Griffith at John Jones yn bersonol, a dywedodd wrtho na byddai iddo ef ymgymeryd â'r swydd, gan nas gallai ei chyflawni. "Tewch, tewch," ebe yntau, "pe na baech ond yn gosod carreg ar dô y capel, ar ol i'r gwynt ei