Mehefin, 1897, y bu farw R. G. Roberts, yn 31 oed, ac wedi bod yn y swydd o flaenor am un flwyddyn. Ganwyd ef yn y Fronoleu, Cilgwyn. Bu'n ffyddlon gyda chyfarfod gweddi y bobl. ieuainc, a gwnaeth ymdrech arbennig i ennill esgeuluswyr. Arferai siarad yn neilltuol o dda ar y mater a benodid ar gyfer cyfarfod gweddi'r bobl ieuainc unwaith yn y mis, a danghosai ei sylwadau ol darllen. Bu'n cynnal dosbarth cerddorol. O farn gref a chymeriad gloew. Daeth yma o ardal Talsarn, ac ni fu'n hir cyn ei alw yn flaenor.
Cryf, addien fel crefyddwr—oedd efe,
Ac yn ddifost weithiwr.
Mewn agwedd ddwys 'roedd eglwys Ior,
Ag angen pwyll ei gynghor. (Geraint).
Yn 1899 y sicrhawyd offeryn ynglyn â chaniadaeth. Casglwyd drwy'r ardal y swm o £54 9s. 6c. at yr amcan. Talwyd am yr offeryn, £46 10s.
Yn 1899, hefyd, yr adeiladwyd tŷ'r gweinidog ar y tir y bu'r hen gapel arno. Ei gynllunydd, Mr. R. Lloyd Jones Caernarvon, a'i adeiladydd, Mr. W. J. Griffith Carmel. Y draul tua £600. Yr un flwyddyn yr ymadawodd Mr. J. Elias Jones i Saron, Penygroes.
Yn 1900 y galwyd T. W. Elias Jones Gwyndre yn flaenor. Efe hefyd yw ysgrifennydd yr eglwys.
Y mae ysgol Sul Carmel wedi bod yn un nodedig o lewyrchus, ar brydiau o leiaf yn un o'r rhai mwyaf felly yn Arfon. Un hynod fel holwr plant oedd David Owen Brynbugeiliaid. Yr oedd ganddo ef hefyd ddosbarth mawr o fechgyn yn dechre darllen, ac yr oedd yn dra phoblogaidd gyda hwy. Bu ef farw Mehefin 3, 1876, yn 61 oed. "Uwch angof saif ei gofiant, A'i fri'n gerf ar fronnau gant." (Alafon). Evan Jones Clawddrhos oedd un arall a ragorai fel holwr plant. Daniel Thomas Hafod boeth fu'n athraw llafurus. ar un o'r prif ddosbarthiadau am tuag ugain mlynedd, ac un y teimla amryw yn rhwymedig iddo hyd heddyw. Efe oedd arweinydd y Gobeithlu pan ydoedd yn ei flodau. Yn un o'r prif rai a fu'n ymdrechu i gael y capel presennol. Efe a ymadawodd i Brynrhos ar sefydliad yr achos yno. Y mae gan Mr. W. G. Roberts restr o'r arolygwyr ynghyda'r ysgrifenyddion, gyda rhai bylchau. Dyma rai fu'n arolygwyr am flynyddau yn olynol: William Owen Brynbugeiliaid, John Robinson, Trevor Roberts, Daniel Thomas Hafod boeth, Owen Morris Braich trigwr uchaf, Hugh Jones