ochr i'r pulpud, gyda'r llawr beth yn uwch na llawr y capel. Ar ganol y sêt ar y dde yr oedd drws yr eid drwyddo o barlwr y tŷ capel, drwy ddrws yn y sêt ei hunan, i'r sêt fawr a'r pulpud. Yn y sêt fawr gyda'r blaenoriaid eisteddai rhai hynafgwyr eraill. Yma, ar gyfer y pregethwr, y mae'r arweinydd canu. William Griffith Cae Goronwy ydyw ef, gwr y llais udgorn arian. Meinciau ar lawr pridd, rhydd i bawb, sydd ar ganol y capel. Chwe chanwyll, un bob ochr i'r pulpud, a'r pedair eraill yn y seren uwch canol y llawr. Yr oedd 25 o seti bychain yn y capel ar y cyntaf, digon i gynnal y gynulleidfa i gyd y pryd hwnnw. Ymhen ysbaid o rai blynyddoedd, dodwyd seti ynghanol y llawr. Eisteddleoedd erbyn hynny i 133.
Fe bregethwyd am y tro cyntaf yn y capel cyn ei orffen, oddiar fainc y saer, gan Cadwaladr Owen. Yr oedd hynny ar noson waith, a daeth llawer o'r chwarelwyr ynghyd i wrando. Ceid pregeth ar brynhawn Sul o Dalsarn, yn achlysurol i ddechre, wedi hynny yn gyson.
H. W. Hughes, mab William Hughes Pen yr orsedd oedd gwr y tŷ capel. Bu ef o wasanaeth gyda'r canu y pryd hwn.
Nid yw'n ymddangos pa bryd yn union y sefydlwyd yr eglwys. Feallai mai ymhen rhyw ddwy neu dair blynedd ar ol agoriad y capel. Yr oedd Robert Dafydd yn flaenor yn Nhalsarn, ond yn preswylio yma. Daeth Griffith Williams yma o Frynrodyn yn 1842. Yr oedd efe yn flaenor yno. John Jones Ffridd lwyd oedd y blaenor cyntaf a ddewiswyd gan yr eglwys yma. Nid oes sicrwydd am flwyddyn ei ddewisiad. Tybir mai yn ystod 1842-3, a bod yr eglwys wedi ei sefydlu ryw gymaint yn flaenorol. Yr oedd y tri gwŷr hyn yn gweithredu fel blaenoriaid o'r dechre, neu yn agos o'r dechre.
Robert Owen Rhostryfan a gymerai lais yr eglwys yn newisiad John Jones. Wedi cymeryd y bleidlais, ac i John Jones gael ei enwi fel y dewisedig, ebe Robert Owen ymhellach: "Y mae'r oll o'r eglwys wedi pleidleisio drosto ond un; ac y mae'n debyg iawn y gŵyr yr un honno fwy am dano na neb arall o honochi. Gwyliwch chwi mai y hi sy'n iawn!" Mary Jones, priod John Jones, oedd yr un honno.
Allan o restr T. Lloyd Jones o aelodau eglwysig Talsarn yn 1838, y mae Mr. O. J. Roberts yn nodi allan ddeuddeg ag y tybia mai hwy ydyw'r deuddeg y dywedir gan T. Lloyd Jones iddynt ym-