aelodi yn Cesarea ar gychwyniad yr eglwys. Dyma nhwy: Morris Griffith Penygarth, Robert Dafydd y Fron, Cadwaladr Jones Penygarth, Hugh Williams a Richard Williams Pen yr orsedd, John Jones yr Henfron, Ffridd lwyd wedi hynny, John Roberts Gelli, Tanychwarel wedi hynny, William Parry Bryn'rhedydd, Elizabeth Jones, sef priod Robert Dafydd, Mary Hughes, sef priod Cadwaladr Jones, Catherine Griffith Pen yr orsedd, Mary Jones, sef priod John Jones. Fe ddichon na ddarfu iddynt oll ymaelodi yma y noswaith gyntaf. Daeth eraill i'r eglwys tuag adeg ei chychwyniad,—John Hughes Tynymaes, wedi hynny o'r Cefnen, Brynrodyn, lle y gwasanaethodd fel blaenor, Margaret Williams, sef priod Griffith Williams, Mary Roberts Tanychwarel ac eraill.
Cynhaliwyd y Cyfarfod Ysgolion cyntaf yma ar Ebrill 25, 1841, sef yn y Fron, fel y dywedir yn llyfr cofnodion yr ysgrifennydd, gan alw'r capel ar yr enw hwnnw am y pryd, debygir. Yr oedd yma y pryd hwnnw 14 o athrawon, 3 o athrawesau, 1 arolygwr, 83 o ysgolheigion.
Dylid coffau y byddai John Jones Talsarn yn talu ymweliadau mynych â'r lle yma, yn pregethu yma yn fynych ar ganol wythnos, gan wrthod derbyn unrhyw gydnabyddiaeth am hynny, ac na wneid dim o bwys ynglŷn â'r achos ond mewn ymgynghoriad âg ef.
Yn 1846 y daeth William Hughes yma o Dalsarn, y pregethwr cyntaf yn y lle. Daeth i fyw i Blas Collin. Bu o wasanaeth neilltuol yma. Ymadawodd i Dalsarn yn ei ol yn 1852.
Yng Nghyfarfod Misol Rhydfawr, Tachwedd 10, 1852, yn ol cofnod ysgrifenedig, fe benderfynwyd cynorthwyo Cesarea i dalu eu dyled drwy annog pawb "i ddyfod a rhyw gymaint o arian, yn ol fel yr ewyllysient hwy eu hunain." Y ddyled yn 1853, £60; yn 1854, £45. Yr oedd eisteddleoedd i gant o bobl yn cael eu gosod yn 1854. Cyfartaledd pris eisteddle pob un yn y chwarter, 7c. Swm y derbyniadau am y seti yn 1853, £11. Gwneid casgl o £5 y flwyddyn at ei gilydd y pryd hwnnw at leihau y ddyled. Y casgl at y weinidogaeth, £7. Rhif yr eglwys, 48. Traul o £8 ar y capel yn ystod 1853.
Yn ystod 1853-4 y cafwyd y Cyfarfod Misol cyntaf i'r lle. Trwy lawer o ymdrech y llwyddwyd i'w gael, ac ar ol gwneud cais ar ol cais am dano. Dywedodd William Roberts Clynnog neu