Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/263

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

John Jones Tremadoc nad oedd "dim ond grug i'w gael yn y fan honno." Fe orfu John Jones Ffridd lwyd, cennad yr eglwys, heb yn waethaf i'r grug a'r cwbl. Yn y Cyfarfod Misol hwn y pregethodd Griffith Parry, Caernarvon y pryd hwnnw, ei bregeth gyntaf mewn Cyfarfod Misol.

Yn 1853-5 y daeth John Phillips i Dynymaes o le a elwid Coicia gwyn yn Eifionydd. Yn flaenor yn dod yma. Yn briod â mam gwraig John Jones Ffridd lwyd. Gwr gweithgar a chrefyddol.

Bu farw Griffith Williams Penybraich ar Chwefror 26, 1856, yn flaenor er 1842. Daeth i'r ardal yma y pryd hwnnw o Frynrodyn, lle'r ydoedd yn flaenor er 1839. Yr oedd ei ddyfodiad ef a'i briod i'r ardal y pryd hwnnw o werth neilltuol i'r achos. Ystyrrid ef yn wr duwiol iawn, ac yr oedd yn dra ffyddlon gyda'r gwaith. Gadawodd dystiolaeth ar ei ol ddarfod iddo ryngu bodd Duw; a dywedid am dano, Yr hyn a allodd hwn efe a'i gwnaeth.

Fe drigiannai John Williams,-tad y Parch. William Williams Rhostryfan, Robert Williams a fu'n flaenor yn Nhanrallt, ar ol hynny o Bantglas, Henry Williams Glanaber, Llanllyfni, a blaenor yno, yn Rhwng-y-ddwy-afon yn ystod 1850-7. Bu ef byw ym Meillionnydd yn flaenorol i hyn. Symudodd oddiyno i'r Bontnewydd, ac oddiyno drachefn i Rhwng-y-ddwy-afon. Gwr pwyllog a gwasanaethgar i'r achos. Llafurus gyda'r ysgol. Amddiffynnodd rai rhag diarddeliad droion am na farnai eu trosedd yn galw am hynny. Ymadawodd i Gae einion, Tanyrallt, a therfynnodd ei oes yno.

Yn ystod 1856-7 y dewiswyd yn flaenoriaid, John Roberts Tanychwarel a Thomas Roberts Tanycastell.

Tuag 1857 y daeth William Griffith i gadw'r tŷ capel. Hugh W. Hughes wedi ymadael oherwydd afiechyd. Gwnaeth William Griffith ei ran gyda'r achos tra y bu yn yr ardal. Yr ydoedd ef yn dad i William Griffith Creigiau mawr (Hyfrydle).

Bu farw John Phillips yn 1859, wedi gwasanaethu yma fel blaenor er 1855 neu gynarach, gan adael perarogl o'i ol. Fe ddywed Mr. David Hughes fod y blynyddoedd 1854—9 yn flynyddoedd o weithgarwch gyda'r achos, a bod yn yr eglwys