Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/265

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aeth y rhan fwyaf i gysgu. O ddireidi, fe agorodd rhywun un o'r pibellau agerdd, nes bod yr agerdd yn chwythu allan gyda thwrf dychrynllyd. Deffrodd y cysgaduriaid, gan ruthro ar draws eu gilydd ynghanol yr agerdd a'r lluwchfa o ludw. Meddyliodd William Humphreys ar y funyd mai yn uffern yr ydoedd. Y teimlad yma a'i harweiniodd i'r eglwys. Eithr y diwygiad a wnaeth grefyddwr gweithgar ohono. Un o blant y diwygiad oedd William Griffith Cae Goronwy. Yr oedd ef yn gerddor, a bu o wasanaeth mawr i'r ganiadaeth. Dewiswyd ef yn arweinydd cyn bod ohono yn aelod eglwysig, ac ymroes yntau gyda llwyredd i'r gwaith. Y mae'r hanes hwn am y diwygiad wedi ei ddiogelu gan Mr. David Hughes. Rhif yr eglwys yn 1858, 45; yn 1860, 80; yn 1862, 85; yn 1866, 85.

Yn amser y diwygiad y sefydlwyd y cyfarfod gweddi bach. Penodwyd John Jones Penygan a William Humphreys i ofalu am dano.

Yn 1861 fe newidiwyd y daith. Pregethwr Talsarn i fyned i'r Baladeulyn, a Cesarea i fyned yn daith gyda Charmel.

Yn ol adroddiad Ysgolion y Dosbarth am 1862, yr oedd rhif yr athrawon yn 18, athrawesau 1, ysgolheigion 111, ynghyd â'r arolygwr a'r ysgrifennydd yn gwneud 132.

Yn 1864 y gorffenwyd y capel newydd yn gyfagos i'r fan lle'r oedd yr hen gapel, yn is i lawr, ac ar dir Bronyfoel. Tra'r oedd y capel heb ei orffen, fel y clywodd Mr. O. J. Roberts, daeth Edward Griffith Meifod heibio yng nghwmni David Lloyd Jones, a phregethodd ynddo i gynifer a ellid eu cael ynghyd, a digwyddodd i'r ail gapel megys ag i'r cyntaf, sef ddarfod iddo gael ei gysegru â phregeth cyn ei lwyr orffen. David Jones Plas Collin a edrychai ar ol yr adeiladwaith dros yr elgwys. Evan Owen Talsarn oedd y cyntaf i bregethu ynddo yn ol trefn ac yn rheolaidd. Hugh Thomas y Castell a ddechreuodd yr ysgol ynddo gyntaf. Yr arolygwr ysgol a ddaeth o'r hen gapel i'r newydd ydoedd Thomas Roberts Tanycastell, ysgrifennydd yr ysgol a'r eglwys, Morris Williams Penygan. Agorwyd y capel yn ffurfiol gyda Chyfarfod Misol, Dafydd Jones Caernarvon a Dafydd Morris ymhlith y pregethwyr. Eisteddleoedd yn y capel i 256. Gosodid 180 yn 1865. Swm y ddyled yn 1860 ydoedd £15; yn 1865, £500; yn 1866, £550. Gwerthwyd yr hen gapel yn 1865 am £20.