lle cyfleus i gadw'r ysgol. Yr oedd yr hen wr, pa fodd bynnag, yn gâr iddo, ac fel yntau yn rhywbeth o gymeriad yn ei ffordd. Ni faliai nemor am bethau newyddion. Ni fynnai fyned i weled y trên pan ddaeth o fewn dwy filltir i'w breswylfod, er cael cynnyg ei gario droion mewn cerbyd i'r perwyl hwnnw. Gwaharddodd ddwyn elorgerbyd i'w gynhebrwng. Myned gyda llythyren rheol. Priododd merch un o'r byd yn amser yr hen gapel. Collodd ei haelodaeth. Ymhen hir a hwyr hi ddaeth i'r eglwys yn ei hol, wedi bod o'r gymdogaeth am ysbaid. Am na fynnai hi ddweyd ei bod yn edifarhau am yr hyn a wnaeth, ni fynnai Robert Dafydd mo'i derbyn hithau yn ol, ac at enwad arall yr aeth hi. (Goleuad, 1878, Hydref 26, t. 9.)
Oddeutu 1880 y symudodd William Humphreys i Garmel, lle bu farw yn 1883. Fel athraw, heb fedru darllen yn gywir ei hun, yr oedd ganddo ffordd ddeheuig o gael yr ysgolheigion i gywiro eu gilydd. Bu cyfarfod gweddi'r bobl ieuainc dan ei ofal ef o amser y diwygiad hyd ei ymadawiad o'r ardal. Disgybl anwyl ydoedd.
Yn 1881 y derbyniwyd Richard Williams i'r Cyfarfod Misol fel blaenor.
Dydd Sadwrn, Awst 28, 1880, y gosodwyd i lawr y garreg sylfaen i'r capel newydd, sef y trydydd, gan Watkyn Williams, yr aelod seneddol dros y sir. Yr oedd hynny tua chwarter milltir ymhellach na'r hen gapel, ac yn nes i Fynwent Twrog. Rhoes y Dr. Owen Thomas anerchiad ar yr achlysur. Gwnaed y cynlluniau gan y Parch. Griffith Parry Llanberis, a chymerwyd y gwaith gan Mr. Evan Jones Plas Dolydd. (Goleuad, 1880, Medi 4, t. 14.)
Ymgynullodd y gynulleidfa ynghyd i'r capel am y tro cyntaf ar y Sul, Awst 28, 1881. Cyn codi'r capel newydd yr oedd y ddyled yn £425. Prynwyd y tir am £112 10s. Yr holl draul, gan gynnwys y ddyled flaenorol, £2,436 3s. 10c. Prin yr oeddid wedi gorffen adeiladu na phrofwyd iselder masnachol yn y wlad. Yn 1883 fe ddarfu'r dymestl dorri y tô. Erbyn yr agoriad yr oeddis wedi talu dros £200 o'r ddyled, a lleiheid ryw ychydig arni, er gwaethaf llogau trymion, bob blwyddyn oddigerth y flwyddyn 1883. Sefydlwyd cymdeithas ddilog cyn agoriad y capel. Er hynny fe dalwyd 473 18s. mewn llog yn 1886.
Yng ngwanwyn 1882 y bu farw Evan Parry. Dewiswyd ef fel cyd-arweinydd y gân â William Griffith. Disgynnodd y cyfrif-