oldeb yn lled lwyr arno ef. Yr oedd yn gerddor da. Cyflawnodd y gwaith yn deilwng. Dewiswyd ei fab, Mr. Henry R. Parry, i'r un swydd ar ei ol.
Ebrill, 1882, fe roes y Parch. W. R. Jones ei swydd fel bugail i fyny, ac ymadawodd i Lanfairfechan.
Bu farw John Jones Ffridd lwyd, Mawrth 14, 1885, wedi bod yn flaenor ers oddeutu 1842. Gwr cryf, gewynog, llawn dwylath o daldra, o brydwedd tywyll, go hunanfeddiannol, ac âg edrychiad go led dreiddlym ganddo. Un o wŷr Beddgelert, ac wedi teimlo pethau grymus yno. Y blaenor cyntaf yma o ddewisiad yr eglwys ei hun. Bu'n arolygwr yr ysgol yn y capel cyntaf am rai blynyddoedd. Yn wr penderfynol yn ei swydd, ac yn hytrach yn geidwadol ei ysbryd. Cofiadur da, a chanddo gyfoeth o bethau wedi eu darllen a'u clywed, ag y gallai eu dwyn allan ar achlysur yn ei gyfarchiadau cyhoeddus. Braidd yn afrwydd fel siaradwr nes poethi gyda'i bwnc. Yn weddiwr cyhoeddus taer, llawn teimlad, gyda gwên ar brydiau yn ymdaenu dros ei wynepryd, pan gyda'r gorchwyl. Danghosodd fesur da o ymroddiad dros ystod ei dymor maith fel blaenor, ac yr ydoedd yn un yr hoffid gwrando ar ei gyfarchiadau.
Yn 1885 y dewiswyd yn flaenoriaid, O. J. Roberts a William Ellis Williams. Y blaenaf yw ysgrifennydd yr eglwys er 1874. Aeth yr olaf i Awstralia, gan geisio adferiad iechyd, a bu farw yno Hydref 6, 1903. Yn niwygiad 1859 y daeth efe at grefydd. Bu yn Awstralia yn ddyn ieuanc. Yn 1874, penodwyd ef ar ol ei dad yn oruchwyliwr chwarel y Cilgwyn.
Bu farw John Roberts, Chwefror 12, 1888, yn 84 oed, ac yn flaenor er rywbryd yn 1856-7. Ganwyd ef ym Mryncyll ger Amlwch, Môn. Ystyriai John Roberts fod ganddo hawl gyfreithiol drwy ei fam i etifeddiaeth neilltuol o gryn werth. Pan oedd rhan o'r etifeddiaeth honno yn myned ar werth, meddyliodd am ymyrraeth y pryd hwnnw, ac aeth i Fôn i'r amcan; ond pallodd ei wroldeb, a daeth oddiyno heb yngan gair. Pan tuag 20 oed daeth i Simdde'r Ddallhuan, Drwsycoed, i weithio. Lletyai yn y Gelli ffrydau. Yno yr ymunodd â chrefydd. Yn ystod ei arosiad ef yno y sefydlwyd ysgol Sul yn y Gelli, a bu yntau yn athraw a holwyddorydd yno am gryn ysbaid. O'r Gelli y symudodd yma, ac a adeiladodd Danychwarel, ei gartref yn ol hynny. Bu yn