Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/272

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mor uchel!" Y gair a ddywedodd wrth rai o'i gydswyddogion, a oedd wedi galw i'w weled pan oedd efe ar ei derfyn,—"Awn a meddiannwn y wlad!" (Drysorfa, 1891, t. 447).

Yn 1892 y dewiswyd Richard Roberts Ffridd lwyd a John W. Evans Bryn awel yn flaenoriaid. Hefyd, Richard Williams yn ymadael i Garmel, yn flaenor yma er 1881. Yr oedd ef wedi dod i fyw i'r ardal ers rhai blynyddoedd cyn hynny. Ymwelwr â'r claf a'r rheidus.

Ionawr 27, 1893, y bu farw William Griffiths Cae Goronwy, arweinydd y gân am faith flynyddau. Ymunodd ef â chrefydd. oddeutu amser y diwygiad. Bu'n dra ffyddlon i ddilyn yr wylnosau, er mwyn y canu. Llafuriodd lawer gyda'r canu ar gyfer gwahanol gyfarfodydd dirwestol. Yn fanwl iawn mewn dysgu darllen i'r bechgyn yn ei dosbarth.

Medi 27, 1898, y daeth Mr. R. Dewi Williams, B.A., yma fel bugail.

Yn 1898 yr ymadawodd Richard Roberts i Rostryfan, yn flaenor yma er 1892. Yn athraw da, yn wr neilltuol mewn gweddi, ac o gymeriad rhagorol.

Gwerthwyd y capel blaenorol am £60 10s. yn 1898. Gwerth— wyd y tŷ capel cyfagos iddo am £141 yn 1899. Yn 1898 adeiladwyd tŷ capel ynglyn â'r capel newydd. Y draul, £305, a £15 15s. am ddodrefnu ystafelloedd i'r gweinidog. Yn 1900 fe adgyweiriwyd wyneb y capel ar draul o £182 10s.

Yn 1900 y dewiswyd Hugh William Roberts yn flaenor.

Y mae gan Mr. O. J. Roberts rai adgofion ychwanegol. Yn yr ail gapel y dywed ddarfod dechre cynnal y cyfarfod llenyddol Bu llewyrch yma ar yr achos dirwestol, ac ar y ffurf arni a adwaenid fel Temlyddiaeth Dda. Yn yr ail gapel yr oedd y tê parti mewn bri. Cynelid un yno ar Tachwedd 17, 1866, y cyntaf, debygir, o'i rywogaeth. Cynelid cyfarfod y Gobeithlu yn yr hwyr, pryd yr oedd Ieuan Gwyllt yn bresennol. John Roberts Tanychwarel yn holi'r plant yn hanes Jonah. Nid ymddengys y cyfododd yma yr un pregethwr yn holl hanes yr eglwys. Daeth i gysylltiad â'r ail gapel ddau deulu o leoedd eraill sydd wedi parhau yn amlwg yma, sef teulu William Roberts Tynymaes, wedi hynny Bryn'rhydd, a